Problemau teithio

Bydd trefniadau cau ffyrdd yng nghanol y ddinas yr wythnos hon yn effeithio ar wasanaethau Newport Bus sy’n teithio trwy’r Stryd Fawr a Stow Hill ar y dyddiadau a rhwng yr amserau isod:

 

Y Stryd Fawr

  • Ddydd Mawrth 13 Tachwedd rhwng 11:00 a 14:00
  • Rhwng 17:00 ddydd Gwener 16 Tachwedd ac amser y gwasanaeth olaf ddydd Sadwrn 17 Tachwedd
  • Yn ystod y cyfnodau hyn, caiff yr holl wasanaethau eu dargyfeirio’n uniongyrchol i Orsaf Fysiau Casnewydd.

 

Stow Hill

  • Ddydd Sadwrn 17 Tachwedd, bydd Stow Hill ar gau rhwng 06:00 a 21:00.
  • Yn ystod y cyfnod hwn, bydd gwasanaeth 2C Y Gaer (i gyfeiriad canol y ddinas) yn teithio trwy Havelock Street, North Street a Queensway i mewn i Orsaf Fysiau Casnewydd.
Yn ôl