Problemau teithio

Mae amserlen dros dro newydd wedi’i chyflwyno ar ôl i Gyngor Gwynedd gytuno i ariannu gwasanaeth a gaiff ei redeg ganddo’n rhannol rhwng Dolwyddelan a Blaenau Ffestiniog, er mwyn gallu gofalu bod plant ysgol yn dychwelyd yn ddiogel o Ysgol Dyffryn Conwy. Bydd yr amserlen yn dechrau gweithredu heddiw (19/11/2018) a bydd yn parhau tan y Nadolig. Mae cwmni Llew Jones wedi penderfynu cyflwyno gwasanaeth cyfatebol, sef gwasanaeth ychwanegol i mewn ac allan o Flaenau Ffestiniog ar gyfer y cyhoedd yn y bore.

Rydym yn gobeithio y bydd yr amserlen newydd ar ein gwefan cyn gynted ag sy’n bosibl. Yn y cyfamser, gellir ei gweld isod. Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Yn ôl