Problemau teithio

Effaith y Gorchymyn fydd cau'r B4275 Quarter Mile Bridge dros dro, o bwynt 40 metr i'r gogledd-ddwyrain o'i chyffordd â Ffordd Abercynon, i'r gogledd ddwyrain am 40 metr.

Mae angen cau'r rhan yma o'r ffordd fel bod modd cynnal gwaith arni neu yn ei hymyl.

Mae disgwyl i'r ffordd fod ar gau dros nos yn ystod y dyddiadau a'r amseroedd canlynol neu hyd nes y bydd y gwaith wedi'i gwblhau:

  • O 11:30pm i 6:30am y diwrnod canlynol rhwng 10 Rhagfyr a 15 Rhagfyr 2018 ac
  • O 11:30pm ar 15 Rhagfyr i 2:00pm ar 16 Rhagfyr 2018. 

Bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys. Fydd dim mynediad i gerbydau'r gwasanaethau brys yn parhau.

Dylai cerbydau ddilyn llwybr amgen o ochr ogleddddwyreiniol y ffordd sydd wedi'i chau, trwy'r Quarter Mile Bridge, yr A4059, Pont Aberpennar, Stryd Rhydychen, Heol Meisgyn, Stryd Glyngwyn, Heol Penrhiwceiber, Stryd Rheola a Heol Abercynon i ochr dde-orllewinol y ffordd sydd wedi'i chau.

Ar gyfer cerbydau sy'n teithio i'r cyfeiriad arall, dilynwch y cyfeiriadau uchod i'r gwrthwyneb.

Yn ôl