Problemau teithio

Tocyn bws yw tocyn ‘2gether’, sy’n galluogi cwsmeriaid i deithio’n ddigyfyngiad ar draws rhwydwaith Stagecoach am bris rhatach (heblaw ar wasanaeth T4 TrawsCymru rhwng Felin-fach/Aberllynfi a’r Drenewydd).

Dim ond ar y bws y gellir prynu’r tocyn hwn, felly gofynnwch i’ch gyrrwr am docyn ‘2gether’ a rhannwch y gost.

Yn ystod yr ŵyl, bydd cwsmeriaid hefyd yn gallu defnyddio tocyn ‘2gether’ bob dydd o ddydd Sadwrn 22 Rhagfyr 2018 tan ddydd Sul 30 Rhagfyr 2018. Yna, bydd y cynllun yn un ar gyfer y penwythnosau’n unig.

Dyma’r opsiynau o ran prisiau:

Tocyn ‘2GETHER’ i 2 oedolyn £10.00

Tocyn ‘2GETHER’ i 2 blentyn £6.60

Tocyn ‘2GETHER’ i 2 ddeiliad fyngherdynteithio £6.60

Tocyn ‘2GETHER’ i 1 deiliad fyngherdynteithio ac 1 oedolyn £9.40    

Tocyn ‘2GETHER’ i 1 plentyn ac 1 oedolyn £9.40

Tocyn ‘2GETHER’ i 1 deiliad fyngherdynteithio ac 1 plentyn £6.40 

Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar wefan Stagecoach.

Yn ôl