Problemau teithio

Bws Caerdydd:

Bydd y gwaith o ailddatblygu St David’s House yng Nghaerdydd yn dechrau ym mis Ionawr 2019. O ganlyniad ni fydd arosfannau bysiau JA, JC a JD ar Stryd Wood yng nghanol y ddinas yn cael eu defnyddio, a bydd y gwasanaethau isod yn defnyddio arosfannau gwahanol o ddydd Sul 6 Ionawr ymlaen.

Gwasanaeth 4 – bydd y gwasanaeth yn gorffen wrth arhosfan KH (Royal Hotel) ar Heol y Porth.

Gwasanaeth 18 – bydd y bysiau’n dilyn yr un llwybr â gwasanaeth 17 i mewn i ganol y ddinas, dros Bont Caerdydd ac ar hyd Heol y Castell a Heol y Porth. O ganlyniad bydd gwasanaeth 18 yn rhoi’r gorau i wasanaethu arosfannau ar Neville Street, Clare Street, Stryd Tudor a Stryd Wood. Bydd gwasanaeth 18 yn parhau i wasanaethu arhosfan KL ar Heol y Porth, ond bydd hefyd yn gollwng teithwyr wrth arosfannau KD a KJ ar y stryd honno.

Gwasanaeth 54 i gyfeiriad Cyncoed – bydd y bysiau’n defnyddio arhosfan JV ar Stryd Wood, sydd y tu allan i Southgate House.

Gwasanaethau 92, 93 a 94 – bydd y gwasanaethau’n dechrau ac yn gorffen wrth arhosfan JQ ar Stryd Wood. Mae hwn yn arhosfan newydd a fydd yr ochr arall i’r heol, y tu allan i adeilad BBC Cymru. O ganlyniad bydd y teithiau’n dechrau funud yn hwyrach yn ystod y dydd, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.*

*Mae’n bosibl y bydd yr arhosfan yn cael ei symud 7-10 diwrnod yn hwyrach na’r disgwyl. Cofiwch gadw golwg am gyhoeddiadau pellach. 

Gwasanaeth 95 i gyfeiriad Ysbyty Athrofaol Cymru, Y Waun – bydd y bysiau’n defnyddio arhosfan KP ar Heol y Porth yn hytrach na Stryd Wood.

Gwasanaethau 95, 95A, 95B a 95C i gyfeiriad y Barri a Phenarth – bydd y bysiau’n aros wrth arhosfan bysiau ‘Tudor Street Lane’ yn hytrach nag wrth yr arhosfan diwethaf ar y stryd. 

Gwasanaethau 95A, 95B a 95C – bydd y bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn gollwng teithwyr wrth arhosfan JV ar Stryd Wood, sydd y tu allan i Southgate House. Yn ogystal, bydd gwasanaeth 95B yn rhoi’r gorau i wasanaethu Canolfan Hamdden Cogan o’r dyddiad hwn ymlaen.

Gwasanaethau 96 a 96A – bydd y bysiau’n mynd i mewn i ganol y ddinas dros Bont Caerdydd ac ar hyd Heol y Porth, yn lle Neville Street a Stryd Tudor. Bydd y bysiau’n gollwng teithwyr wrth arosfannau KD a KH ar Heol y Porth. Bydd y teithiau’n dechrau wrth arhosfan KM ar Heol y Porth, yn ôl yr arfer.

Gwasanaeth X45 – ni fydd y bysiau i Laneirwg yn aros ar Stryd Wood. Yn hytrach, byddant yn mynd yn eu blaen i Heol y Porth (Royal Hotel).

Gwasanaeth X91 – bydd y bysiau sy’n mynd i mewn i ganol y ddinas yn aros ar Canal Street. Bydd y bws 07:00 o Lanilltud Fawr yn mynd yn ei flaen er mwyn gwasanaethu Ffordd Churchill hefyd. 

Cliciwch yma i weld y fersiwn ddiweddaraf o’n map o arosfannau bysiau yng nghanol y ddinas.

 

 

First Cymru: 

Oherwydd datblygiadau yng nghanol Caerdydd, bydd angen cau’r arosfannau bysiau ar ochr ogleddol Stryd Wood a’r arhosfan bysiau yn Heol y Tollty o 2 Ionawr 2019 ymlaen.

Felly, o 2 Ionawr 2019 ymlaen: bydd gwasanaeth rhif X2 i Ben-y-bont ar Ogwr a Phorth-cawl yn symud o Stryd Wood i Heol y Porth, arhosfan bysiau KP.

O 7 Ionawr 2019 ymlaen: bydd gwasanaeth rhif X10 i Abertawe yn symud o Heol y Tollty i Heol Penarth, arhosfan bysiau JM.

 

 

New Adventure Travel:

Bydd arosfannau gwasanaeth T9 a gwasanaeth T1c yn symud o ddydd Llun 7 Ionawr 2019 ymlaen. Oherwydd bod yr arosfannau bysiau yr ydym yn eu defnyddio ar Heol y Tollty yn cael eu symud, bydd gwasanaeth T9 yn gorffen ar Canal Street (arhosfan JF) a bydd gwasanaeth T1c yn gorffen ar Heol Penarth (arhosfan JN/Gorsaf Caerdydd Canolog).

 

Edrychwch ar y map isod i gael gwybod ble y bydd yr arosfannau newydd:

Yn ôl