Problemau teithio

Rhwng dydd Llun 14 Ionawr a dydd Gwener 18 Ionawr

Gwasanaethau diwygiedig Trafnidiaeth Cymru dros nos rhwng dydd Llun 14 Ionawr a dydd Gwener 18 Ionawr.

Bydd gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng Cyffordd Twnnel Hafren a Chaerloyw, a rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a Phenarth / Ynys y Barri / Pen-y-bont ar Ogwr dros nos, rhwng nos Lun a bore dydd Gwener.

Rhwng dydd Llun a dydd Iau:

  • Bydd gwasanaeth 21:52 rhwng Aberdâr a Phenarth yn gorffen yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd bws yn rhedeg yn lle’r trên rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a Phenarth.
  • Bydd gwasanaeth 22:15 rhwng Maesteg a Chaerloyw yn gorffen yng Nghasnewydd. Bydd bws yn rhedeg yn lle’r trên rhwng Casnewydd a Chaerloyw.
  • Bydd gwasanaeth 23:14 rhwng Radur ac Ynys y Barri yn gorffen yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd bws yn rhedeg yn lle’r trên rhwng gorsaf Caerdydd Canolog ac Ynys y Barri.
  • Bydd gwasanaeth 23:18 rhwng Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr yn gorffen yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd bws yn rhedeg yn lle’r trên rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr.
  • Bydd gwasanaeth 23:26 rhwng Penarth a gorsaf Caerdydd Canolog yn cael ei ddisodli’n gyfan gwbl gan wasanaeth bws.

Rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener:

  • Bydd gwasanaeth 05:15 rhwng Ynys y Barri a Chaerffili yn dechrau o orsaf Caerdydd Canolog am 05:46. Bydd bws a fydd yn rhedeg yn lle’r trên yn dechrau’n gynharach o Ynys y Barri, am 04:51, ac yn mynd i orsaf Caerdydd Canolog.

 

 

 

Dydd Sadwrn 19 Ionawr a dydd Sul 20 Ionawr

  • Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Hendy-gwyn ar Daf ac Aberdaugleddau ddydd Sadwrn 19 Ionawr a dydd Sul 20 Ionawr.
  • Bydd gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng Clarbeston Road ac Aberdaugleddau, sy’n golygu y bydd pob rheilffordd ar gau.
  • Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Hendy-gwyn ar Daf ac Aberdaugleddau drwy gydol dydd Sadwrn 19 Ionawr a dydd Sul 20 Ionawr.

 

 

 

Dydd Sadwrn 19 Ionawr a dydd Sul 20 Ionawr

Gwasanaeth diwygiedig rhwng Casnewydd a gorsaf Caerdydd Canolog ddydd Sadwrn 19 Ionawr a dydd Sul 20 Ionawr.

Bydd gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng Casnewydd a gorsaf Caerdydd Canolog, a fydd yn cau amryw reilffyrdd.

Great Western Railway

Nos Sadwrn, bydd gwasanaeth 19:23 rhwng Harbwr Portsmouth a gorsaf Caerdydd Canolog, a gwasanaeth 22:00 rhwng gorsaf Paddington yn Llundain a gorsaf Caerdydd Canolog, yn gorffen yng Nghasnewydd. Bydd gwasanaethau rheilffordd eraill ar gael rhwng Casnewydd a gorsaf Caerdydd Canolog.

Ddydd Sul, bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Casnewydd a gorsaf Caerdydd Canolog ar gyfer y gwasanaethau sy’n rhedeg rhwng Brighton / Harbwr Portsmouth a gorsaf Caerdydd Canolog. Bydd y daith ar y bws yn cymryd tua 40 munud. Ar ôl 22:30, bydd rhai bysiau’n mynd mor bell ag Abertawe.

Ddydd Sul, bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Casnewydd a Phen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y trenau cyflym iawn a phellter hir sy’n rhedeg rhwng gorsaf Paddington yn Llundain ac Abertawe. Dylech ddisgwyl i’r daith fod hyd at 60 munud yn hwy nag arfer.

Trafnidiaeth Cymru (Dydd Sul yn unig)

Hyd at 12:40:

  • Bydd trafnidiaeth ar y ffordd yn cael ei darparu yn lle holl wasanaethau trên Merthyr Tudful / Treherbert / Aberdâr
  • Bydd gwasanaethau Rhymni / Ystrad Mynach yn rhedeg i / o Fae Caerdydd
  • Bydd gwasanaethau Ynys y Barri / Pen-y-bont ar Ogwr yn rhedeg i / o Barc Ninian, a bydd bws yn rhedeg yn lle’r trên rhwng Cogan a gorsaf Caerdydd Canolog
  • Bydd gwasanaethau Gorllewin Cymru yn rhedeg i / o Ben-y-bont ar Ogwr, a bydd bws yn rhedeg yn lle’r trên rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr ac yn galw heibio i orsafoedd drwy Bont-y-clun

12:40 ymlaen:

  • Bydd holl wasanaethau Rheilffyrdd y Cymoedd yn gweithredu fel arfer
  • Bydd gwasanaethau Glynebwy yn rhedeg rhwng Glynebwy a Chasnewydd, a byddant yn cysylltu â gwasanaeth bws yn Pye Corner a fydd yn rhedeg i / o orsaf Caerdydd Canolog
  • Bydd gwasanaethau rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a Chaerloyw / Cheltenham Spa yn rhedeg i / o Gasnewydd
  • Bydd gwasanaethau’r gogledd a’r gorllewin (i / o orsafoedd i gyfeiriad Manceinion, Crewe a Chaergybi) yn rhedeg i / o Gasnewydd
  • Bydd gwasanaethau Gorllewin Cymru yn rhedeg i / o orsaf Caerdydd Canolog (platfform 6).

 

 

 

Rhwng dydd Llun 21 Ionawr a dydd Gwener 25 Ionawr

  • Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau o 22:45 tan 06:00 rhwng Llanelli ac Abertawe o ddydd Llun 21 Ionawr i ddydd Gwener 25 Ionawr.
  • Bydd gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng Llanelli ac Abertawe, sy’n golygu y bydd rhai rheilffyrdd ar gau dros nos.
  • Bydd bysiau’n rhedeg rhwng Llanelli ac Abertawe o 22:45 i 06:00 bob nos, gan ddechrau nos Lun a gorffen fore dydd Gwener. 

 

  • Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau hwyr y nos rhwng Crewe a Chaer o ddydd Llun 21 Ionawr i ddydd Gwener 25 Ionawr.
  • Bydd gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng Crewe a Chaer, sy’n golygu y bydd pob rheilffordd ar gau bob nos rhwng 23:30 a 05:30.

 

  • Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau hwyr y nos rhwng Radur a Merthyr Tudful o ddydd Llun 21 Ionawr i ddydd Gwener 25 Ionawr.
  • Bydd gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng Radur a Merthyr Tudful, sy’n golygu y bydd pob rheilffordd ar gau dros nos rhwng 23:30 a 05:15, gan ddechrau nos Lun a gorffen fore dydd Gwener.
  • Bydd pob trên yn gorffen yn Radur / dechrau o Radur. Bydd bysiau’n rhedeg rhwng Radur a Merthyr Tudful.

 

 

 

Dydd Sul 27 Ionawr

  • Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a Rhymni ddydd Sul 27 Ionawr.
  • Bydd gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a Rhymni, sy’n golygu y bydd pob rheilffordd ar gau.
  • Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a Rhymni.

 

Gwasanaeth diwygiedig rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr ddydd Sul 27 Ionawr

  • Bydd gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr, sy’n golygu y bydd rhai rheilffyrdd ar gau.
  • Bydd gwasanaethau Great Western Railway rhwng gorsaf Paddington yn Llundain ac Abertawe / Caerfyrddin yn cael eu dargyfeirio ar hyd llwybr arall rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, sy’n golygu y bydd rhai teithiau ychydig yn hwy nag arfer.
  • Nid ydym yn gwybod eto a fydd y gwaith peirianyddol hwn yn effeithio ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.

 

 

 

Rhwng dydd Llun 28 Ionawr a dydd Iau 31 Ionawr

  • Gwasanaethau diwygiedig Trafnidiaeth Cymru gyda’r nos rhwng Crewe a gorsaf Piccadilly Manceinion rhwng dydd Llun 28 Ionawr a dydd Iau 31 Ionawr.
  • Bydd gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng Crewe a gorsaf Piccadilly Manceinion, sy’n golygu y bydd rhai rheilffyrdd ar gau dros nos.
  • Bydd hynny’n effeithio ar y trenau canlynol:

Rhwng dydd Llun a dydd Iau:

  • Bydd gwasanaeth 20:17 rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a gorsaf Piccadilly Manceinion yn gorffen yn Crewe. Bydd bws yn rhedeg yn lle’r trên rhwng Crewe a gorsaf Piccadilly Manceinion.
  • Bydd gwasanaeth 22:36 rhwng gorsaf Piccadilly Manceinion ac Amwythig yn cael ei ddargyfeirio drwy Stoke. Bydd bws yn rhedeg yn lle’r trên rhwng Stockport a Crewe.
Yn ôl