Problemau teithio

Effaith y Gorchymyn fydd cau Llantwit Road, Trefforest dros dro, o'i chyffordd â John Street, tua'r de-orllewin am bellter o 45 metr.

Mae angen cau'r rhan yma o'r ffordd fel bod modd cynnal gwaith arni neu yn ei hymyl.

Bydd y ffordd ar gau rhwng 11.00pm ddydd Llun 21 Ionawr 2019 a 6.00am ddydd Mawrth 22 Ionawr 2019 neu hyd nes bydd y gwaith wedi'i gwblhau.

Bydd mynediad ar gael i gerddwyr ac i gerbydau'r gwasanaethau brys.

 

Llwybr amgen:

O ochr ogleddol y ffordd sy'n cael ei chau, ewch ar hyd Park Street, Fothergill Street, Cylchfan Glyn-taf, yr A470 tua'r de, Cylchfan Glan-bad, Tonteg Road a Llantwit Road i gyrraedd ochr ddeheuol y ffordd sydd ar gau.

O ochr ddeheuol y ffordd sydd ar gau, ewch ar hyd Llantwit Road, Tonteg Road, Cylchfan Glan-bad, yr A470 tua'r gogledd, Cylchfan Glyn-taf, River Street, Forest Road a Park Road i gyrraedd ochr ogleddol y ffordd sydd ar gau.

Yn ôl