Problemau teithio

Bws Caerdydd:

Oherwydd y gwaith ffordd sy’n cael ei gyflawni yn Mervyn Road yn Nhremorfa, ni fydd gwasanaeth 61 yn mynd ar hyd Willows Ave, Mercia Road na Mervyn Road rhwng amser y bws cyntaf ddydd Llun 4 Chwefror ac amser y bws olaf ddydd Sul 10 Chwefror. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio ar hyd Muirton Road a bydd arosfannau dros dro i’r ddau gyfeiriad yn cael eu defnyddio ar Muirton Road, rhwng Willows Ave a Mervyn Road. Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Yn ôl