Problemau teithio

Arriva Cymru

O ddydd Iau 14 Chwefror 2019 ymlaen, bydd gwasanaeth 5C yn cael ei ddargyfeirio oherwydd bod ffordd Rock Road, Cefn-mawr yn cael ei chau er mwyn rhoi wyneb newydd arni. Disgwylir y bydd y ffordd yn cael ei hailagor ddydd Iau 21 Chwefror.

Wrecsam i Langollen

Bydd gwasanaethau’n gweithredu fel arfer i Riwabon, ac yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Llangollen Road, mynedfa Ystâd Plas Madoc, Hampden Arms, Llangollen Road, Eagles Inn, hen weithfeydd Monsanto, Abernant Road, Queen Street, Dolydd Road, Cae Gwilym Lane, Coronation Street, Plas Kynaston Lane, Hill Street, Queen Street, Abernant Road a hen weithfeydd Monsanto, cyn ailymuno â’r llwybr arferol i Ysgol Dinas Brân a Llangollen.

Llangollen i Wrecsam

Bydd gwasanaethau’n gweithredu fel arfer heibio i Ysgol Dinas Brân i Acre-fair, ac yna’n cael eu dargyfeirio heibio i hen weithfeydd Monsanto, Abernant Road, Queen Street, Dolydd Road, Cae Gwilym Lane, Coronation Street, Plas Kynaston Lane, Hill Street, Queen Street, Abernant Road, hen weithfeydd Monsanto, Llangollen Road, Hampden Arms, mynedfa Ystâd Plas Madoc a Rhiwabon, cyn ailymuno â’r llwybr arferol i Wrecsam.

Yn ôl