Problemau teithio

Arriva Cymru:

Bydd Mostyn Street yn Llandudno ar gau i bob math o draffig ar 15 ac 16 Chwefror 2019, ac oherwydd hynny bydd rhai gwasanaethau bws yn cael eu dargyfeirio.


Yr arhosfan bysiau wrth y Llysoedd Barn

Bydd pob bws sydd fel rheol yn gorffen ei daith ar Gloddaeth Street/Gloddaeth Avenue yn awr yn gorffen ei daith wrth yr arhosfan hwn.

Gall teithwyr sydd am gyrraedd Gloddaeth Street/Upper Mostyn Street ddefnyddio’r gwasanaeth bws amgen a fydd yn rhedeg o’r arhosfan hwn i’r Palladium, Gloddaeth Street (ar hyd Traeth y Gorllewin). Dim ond rhwng 08:30 a 17:30 ar 15/02/2019 ac 16/02/2019 y bydd y bws gwennol hwn yn rhedeg.

 

Arosfannau bysiau ar Mostyn Street (Gerddi’r Gogledd-orllewin, Sefydliad Prydeinig y Galon, Greggs, Starbucks), Sgwâr y Drindod a Lloyd Street

Ni fydd unrhyw wasanaethau’n aros wrth yr arosfannau bysiau hyn.

Gwasanaethau 14/15: Ni fydd y gwasanaethau hyn yn teithio drwy Landudno. Yr arosfannau agosaf ar gyfer y gwasanaethau hyn fydd y rhai wrth y Llysoedd Barn (Conway Road) ac wrth y Maes Parcio i Fysiau (Mostyn Broadway).

Gwasanaeth 26 (Gwasanaeth Cylchol Llandudno): Bydd y bws hwn yn cael ei ailgyfeirio ac ni fydd yn aros yn Mostyn Street, Sgwâr y Drindod na Lloyd Street. Ni fydd cau Mostyn Street yn effeithio ar unrhyw arosfannau eraill. Yr arosfannau agosaf ar gyfer y gwasanaeth hwn yw’r rhai wrth y Maes Parcio i Fysiau (Mostyn Broadway) ac yn Vaughan Street. 

 

Arosfannau bysiau ar Gloddaeth Street (Palladium, M&Co)

Gwasanaethau 14/15: Ni fydd y gwasanaethau hyn yn teithio drwy Landudno. Yr arosfannau agosaf ar gyfer y gwasanaethau hyn fydd y rhai wrth y Llysoedd Barn (Conway Road) ac wrth y Maes Parcio i Fysiau (Mostyn Broadway).


Gall teithwyr sydd am gyrraedd y Llysoedd Barn neu’r Maes Parcio i Fysiau ddefnyddio’r gwasanaeth bws amgen a fydd yn rhedeg o’r arosfannau hyn (ar hyd Traeth y Gorllewin). Dim ond rhwng 08:30 a 17:30 ar 15/02/2019 ac 16/02/2019 y bydd y bws gwennol hwn yn rhedeg.

Gwasanaeth 26 (Gwasanaeth Cylchol Llandudno): Bydd y bws hwn yn cael ei ailgyfeirio ac ni fydd yn aros yn Mostyn Street, Sgwâr y Drindod na Lloyd Street. Ni fydd cau Mostyn Street yn effeithio ar unrhyw arosfannau eraill.

 

Arosfannau bysiau ar Conway Road (Yr Orsaf Dân) a Mostyn Broadway (B&Q)

Bydd pob bws sydd fel rheol yn gorffen ei daith ar Gloddaeth Street/Gloddaeth Avenue yn awr yn gorffen ei daith wrth y Llysoedd Barn.

Gall teithwyr sydd am gyrraedd Gloddaeth Street/Upper Mostyn Street ddefnyddio’r gwasanaeth bws amgen a fydd yn rhedeg o’r Llysoedd Barn i’r Palladium, Gloddaeth Street (ar hyd Traeth y Gorllewin). Dim ond rhwng 08:30 a 17:30 ar 15/02/2019 ac 16/02/2019 y bydd y bws gwennol hwn yn rhedeg.

Gwasanaeth 26 (Gwasanaeth Cylchol Llandudno): Bydd y bws hwn yn cael ei ailgyfeirio ac ni fydd yn aros yn Mostyn Street, Sgwâr y Drindod na Lloyd Street. Ni fydd cau Mostyn Street yn effeithio ar unrhyw arosfannau eraill.

 

Arhosfan bysiau i mewn i Landudno wrth Maesdu Avenue (Pont Maesdu) a Chlwb Cymdeithasol Traeth y Gorllewin

Bydd pob bws sydd fel rheol yn gorffen ei daith ar Gloddaeth Street/Gloddaeth Avenue yn awr yn gorffen ei daith wrth y Llysoedd Barn.

Gwasanaethau 14/15: Bydd y gwasanaethau hyn yn teithio i lawr Maesdu Road a Conway Road i mewn i Landudno i’r Llysoedd Barn, ac yna’n teithio i lawr Mostyn Broadway cyn ailymuno â’u llwybr arferol. Ni fydd unrhyw wasanaeth ar gael ar hyd Traeth y Gorllewin.

Gall teithwyr sydd am gyrraedd Gloddaeth Street/Upper Mostyn Street ddefnyddio’r gwasanaeth bws amgen a fydd yn rhedeg o’r Llysoedd Barn i’r Palladium, Gloddaeth Street (ar hyd Traeth y Gorllewin). Dim ond rhwng 08:30 a 17:30 ar 15/02/2019 ac 16/02/2019 y bydd y bws gwennol hwn yn rhedeg.

Yn ogystal, gall teithwyr gysylltu â’r gwasanaeth hwn ar Bryniau Road (arosfannau y tu hwnt i Trinity Avenue).

 

Arosfannau bysiau wrth Glwb Cymdeithasol Traeth y Gorllewin ac ar Bryniau Road (y tu hwnt i Trinity Avenue) a Gloddaeth Avenue

Gwasanaethau 14/15: Bydd y gwasanaethau hyn yn teithio i lawr Maesdu Road a Conway Road i mewn i Landudno i’r Llysoedd Barn, ac yna’n teithio i lawr Mostyn Broadway cyn ailymuno â’u llwybr arferol. Ni fydd unrhyw wasanaeth ar gael ar hyd Traeth y Gorllewin. Gall teithwyr gysylltu â’r gwasanaethau hyn wrth arhosfan Pont Maesdu (Maesdu Avenue).

Gwasanaeth 26 (Gwasanaeth Cylchol Llandudno): Bydd y bws hwn yn cael ei ailgyfeirio ac ni fydd yn aros yn Mostyn Street, Sgwâr y Drindod na Lloyd Street. Ni fydd cau Mostyn Street yn effeithio ar unrhyw arosfannau eraill.

Gall teithwyr sydd am gyrraedd arhosfan y Palladium (Gloddaeth Street) neu’r Llysoedd Barn (Conway Road) ddefnyddio’r gwasanaeth bws amgen a fydd yn rhedeg ar hyd Traeth y Gorllewin. Dim ond rhwng 08:30 a 17:30 ar 15/02/2019 ac 16/02/2019 y bydd y bws gwennol hwn yn rhedeg.

Yn ôl