Problemau teithio

First Cymru

O 1900 ddydd Gwener 15 Chwefror ymlaen, bydd ffordd yn cael ei chau er mwyn gallu gosod pont reilffordd newydd yn lle’r hen un ym Mhont Fadlen. Bydd y ffordd ar gau drwy gydol dydd Sadwrn hefyd.

Mae hynny’n golygu y bydd gwasanaethau 302/348/349 yn gorfod mynd gryn dipyn allan o’u ffordd.

Mae First Cymru yn disgwyl y bydd y gwasanaethau uchod yn rhedeg hyd at 15 munud yn hwyr drwy gydol y dydd.

Bydd y bysiau’n gwasanaethu Johnston, ond byddant wedyn yn troi rownd wrth y gylchfan wrth ymyl y garej ac ni fyddant yn gwasanaethu’r Vine na Dredgemens Hill.

Dylai’r gwasanaethau fod yn rhedeg fel arfer fore dydd Llun.

Yn ôl