Problemau teithio

Oherwydd y gwaith o ailddatblygu St David's House, sy’n parhau yn Stryd Wood, bydd newidiadau i’r arosfannau bysiau yn Stryd Wood ac wrth Southgate House o ddydd Sadwrn 16 Chwefror ymlaen.

 

Rhwng amser y bws cyntaf ddydd Sadwrn 16 Chwefror ac amser y bws olaf ddydd Sadwrn 23 Chwefror

Bydd system unffordd ar waith yn Stryd Wood (i gyfeiriad pont Stryd Wood/Stryd Tudor), felly ni fydd modd defnyddio’r arosfannau bysiau presennol ar gyfer gwasanaethau 92/93/94 y tu allan i St David's House na’r arosfannau bysiau ar gyfer gwasanaethau 8/9/9A, 54 a 95A/B/C wrth Southgate House. Yn ystod y cyfnod dan sylw, bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio ar hyd Heol Scott a Heol y Parc a bydd dau arhosfan dros dro y tu allan i adeilad BT yn Heol y Parc.

  • Gwasanaethau 8/9/9A – dylech ddefnyddio arhosfan dros dro 'A' yn Heol y Parc
  • Gwasanaethau 92/93/94 – dylech ddefnyddio arhosfan dros dro 'B' yn Heol y Parc
  • Ni fydd gwasanaeth 54 o Channel View i Gyncoed yn gollwng nac yn casglu teithwyr yn Heol y Parc, a chaiff cwsmeriaid eu cynghori i fynd i Heol Pont-yr-Aes yn lle hynny
  • Ni fydd gwasanaethau 95A/B/C o Landochau/Cyfleuster Parcio a Theithio’r Gorllewin yn gollwng teithwyr yn Heol y Parc a byddant yn mynd yn syth i Stryd y Gamlas.

 

O amser y bws cyntaf ddydd Sul 24 Chwefror ymlaen

Bydd dau arhosfan bysiau newydd ar agor yn Stryd Wood ar gyfer bysiau sy’n gadael canol y ddinas, y tu allan i adeilad newydd y BBC ac Ysgol y Cyfryngau Prifysgol Caerdydd.

  • Gwasanaethau 92/93/94 – byddant yn cychwyn/gorffen eu taith wrth arhosfan JQ y tu allan i adeilad y BBC.
  • Gwasanaethau 95, 95A/B/C – byddant yn aros wrth arhosfan JR y tu allan i adeilad Ysgol y Cyfryngau Prifysgol Caerdydd.

Bydd yr arhosfan y tu allan i Southgate House yn ailagor, felly bydd gwasanaethau 8/9/9A i Ysbyty’r Waun, gwasanaeth 54 i Gyncoed a gwasanaethau 95A/B/C i Stryd y Gamlas yn ailddechrau aros wrth yr arhosfan hwnnw.

Yn ôl