Problemau teithio

Stagecoach yn Ne Cymru

Ar 20/2/2019 bydd pob un o fysiau Stagecoach yn cychwyn ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion rhwng 10:00 a 15:00. Bydd bysiau gwasanaethau 122 a 124 yn cael eu dargyfeirio ar hyd Heol y Gogledd, ac ni fyddant yn gwasanaethu Heol y Gadeirlan yng Nghaerdydd tan 1500 pan fyddant yn dychwelyd i’w llwybr arferol ar hyd Heol y Castell a Heol y Gadeirlan.

Ni fydd bysiau Stagecoach yn gwasanaethu Bae Caerdydd rhwng 10:00 a 15:00 ddydd Mercher yma.

 

Newport Bus

Gan y bydd Bataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig yn cynnal Gorymdaith Croeso’n Ôl yng Nghaerdydd, bydd gwasanaeth rhif 30 yn cychwyn ac yn gorffen ei daith yn Heol y Brodyr Llwydion rhwng 11:00 a 14:00.

 

New Adventure Travels

On Wednesday 20th February 2019, there will be a Welsh Guards Homecoming Parade being held in Cardiff City Centre. As a result there will be a FULL city centre road closure in place between 11:00 - 14:00 and our services will be diverting slightly between these times. For further information about these diversions, please click here for a map.

 

Bws Caerdydd

Bydd Bataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig yn cynnal Gorymdaith Croeso’n Ôl drwy Gaerdydd ddydd Mercher 20 Chwefror, sy’n golygu y bydd Heol y Castell, Heol y Porth, rhan isaf Heol Eglwys Fair, Lôn y Felin, Stryd y Gamlas a Heol Pont-yr-Aes ar gau rhwng 1100 a 1400. Yn ystod y cyfnod dan sylw, bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio ac yn cychwyn/gorffen eu taith o fannau gwahanol, fel y rhestrir isod.

 Gwasanaeth(au)

Ble y dylech ddal eich bws

1 a 2

Bydd bysiau’n aros wrth arhosfan JL yn Heol y Tollty yng nghanol y ddinas. Yr arosfannau bysiau na fydd modd eu defnyddio: Stryd y Gamlas a Stryd Ioan.

Baycar ( 6)

Bydd teithiau o’r Bae i Barc Cathays yn dilyn eu llwybr arferol.

Bydd teithiau o Barc Cathays i gyfeiriad Bae Caerdydd yn cael eu dargyfeirio ar hyd Heol y Gogledd, Boulevard de Nantes, Plas Dumfries, Rhodfa’r Orsaf a Bute Terrace i Heol y Tollty lle bydd y gwasanaeth yn defnyddio arhosfan JL.

Yr arosfannau bysiau na fydd modd eu defnyddio: Ffordd y Brenin, Heol y Porth a Heol Eglwys Fair.

8 a 9 i Ysbyty’r Waun

Bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio ar hyd Heol Penarth, Sgwâr Callaghan a Bute Street i Bute Terrace lle byddant yn parhau ar hyd eu llwybr arferol.

Yr arosfannau bysiau na fydd modd eu defnyddio: Clare Road, Stryd Tudor, Stryd Wood a Heol Eglwys Fair.

8 a 9 i Fae Caerdydd
 

Bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio ar hyd Rhodfa’r Orsaf, Bute Terrace, Bute Street, Sgwâr Callaghan a Heol Penarth.

Bydd arhosfan bysiau dros dro ar gael ychydig cyn Gwesty’r Radisson Blu yn Bute Terrace.

Yr arosfannau bysiau na fydd modd eu defnyddio: Plas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin, Heol y Porth, Stryd Tudor a Clare Road.

13 i Fae Caerdydd

Bydd bysiau’n dilyn eu llwybr arferol drwy Dreganna ac yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Clare Street, Clare Road, Heol Penarth, Sgwâr Callaghan a thanffordd Heol Eglwys Fair i Heol y Tollty.

Yr arosfannau bysiau na fydd modd eu defnyddio: Ysbyty Dewi Sant, Heol y Porth, Heol Eglwys Fair.

13 i’r Ddrôp

Bydd bysiau’n dilyn eu llwybr arferol i Heol y Tollty ac yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Sgwâr Callaghan, Heol Penarth, Clare Road a Clare Street i Dreganna lle byddant yn ailymuno â’u llwybr arferol.

Yr arosfannau bysiau na fydd modd eu defnyddio: Heol y Porth a Phont Caerdydd.

15, 17 ac 18

Bydd bysiau’n cychwyn ac yn gorffen eu taith yn Stryd Tudor.

21, 23, 24 (allan o’r ddinas), 25 (i mewn i’r ddinas)

Bydd bysiau’n cychwyn/gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion.

24 (i mewn i’r ddinas) a 25 (allan o’r ddinas)

Bydd bysiau’n cychwyn/gorffen eu taith yn Stryd Tudor.

27, 28/28A/28B, 30, 35

Bydd bysiau’n cychwyn ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion.

44, 45, 49, 50, 52, 57 a 58

Bydd bysiau’n cychwyn ac yn gorffen eu taith yn Ffordd Churchill.

51 a 53

Bydd bysiau’n dilyn eu llwybr arferol – dim newid.

54 i Channel View

Bydd bysiau’n aros wrth arhosfan JL yn Heol y Tollty yng nghanol y ddinas ac yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Heol Penarth.

Yr arosfannau bysiau na fydd modd eu defnyddio: Plas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin, Heol y Porth, Stryd Tudor, Clare Road.

54 i Gyncoed

Bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio ar hyd Heol Penarth, Sgwâr Callaghan a thanffordd Heol Eglwys Fair i arhosfan JG yn Heol y Tollty. Bydd bysiau’n mynd i Gyncoed ar hyd Bute Terrace ac yna’n ailymuno â’u llwybr arferol.

Yr arosfannau bysiau na fydd modd eu defnyddio: Clare Road, Stryd Tudor, Stryd Wood, Heol Pont-yr-Aes.

61 i Bentre-baen

Bydd bysiau’n dilyn eu llwybr arferol i Meteor Street ac yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Moira Terrace ac Adam Street i Bute Terrace. Bydd arhosfan bysiau dros dro ar gael ychydig cyn Gwesty’r Radisson Blu yn Bute Terrace.

Yna, bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio dan bont Bute Street ac ar hyd Sgwâr Callaghan, Heol Penarth, Clare Road, Clare Street a rhan isaf Heol y Gadeirlan cyn ailymuno â’u llwybr arferol.

Yr arosfannau bysiau na fyddant yn cael eu gwasanaethu: Heol Casnewydd, Plas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin, Heol y Porth, Pont Caerdydd.

61 i Bengam Green

Bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio ar hyd Clare Street, Clare Road, Heol Penarth a thanffordd Heol Eglwys Fair i Heol y Tollty lle byddant yn defnyddio arhosfan JG.

Yr arosfannau bysiau na fyddant yn cael eu gwasanaethu: Ysbyty Dewi Sant, Heol y Porth, Arcêd Wyndham, Heol Pont-yr-Aes.

63, 64/65, 66

Bydd bysiau’n cychwyn ac yn gorffen eu taith yn Stryd Tudor.

86

Bydd bysiau’n dilyn eu llwybr arferol – dim newid.

92, 93 a 94

Bydd bysiau’n cychwyn ac yn gorffen eu taith yn Stryd Tudor. Ni fydd yr arosfannau bysiau yn Stryd Wood yn cael eu gwasanaethu.

95 i Ysbyty’r Waun

Bydd bysiau’n dilyn eu llwybr arferol i gyffordd Ninian Park Road/Stryd Tudor ac yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Clare Road, Heol Penarth a phont Heol Eglwys Fair i Heol y Tollty lle byddant yn defnyddio arhosfan JG.

Bydd bysiau’n mynd i gyfeiriad yr ysbyty ar hyd Bute Terrace, Rhodfa’r Orsaf, Plas Dumfries a Phlas-y-Parc cyn ailymuno â’u llwybr arferol.

95 i’r Barri

Bydd bysiau’n cyrraedd canol y ddinas ar hyd Plas-y-Parc, Plas Dumfries, Rhodfa’r Orsaf, Bute Terrace a Heol y Tollty lle byddant yn defnyddio arhosfan JL.

Bydd bysiau’n mynd i’r Barri y tu ôl i’r Orsaf Ganolog ac ar hyd Heol Penarth a Clare Road i Ninian Park Road cyn ailymuno â’u llwybr arferol.

95A/95B/95C

Bydd bysiau’n cychwyn ac yn gorffen eu taith yn Stryd Tudor. Yr arosfannau bysiau na fydd modd eu defnyddio: Stryd Wood a Stryd y Gamlas.

96

Bydd bysiau’n cychwyn ac yn gorffen eu taith yn Stryd Tudor.

X45 i Laneirwg

Bydd bysiau’n dilyn eu llwybr arferol o Asda Bae Caerdydd i gyffordd Corporation Road/Heol Penarth ac yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Heol Penarth a Sgwâr Callaghan i Bute Terrace.

Yna, bydd bysiau’n parhau ar hyd eu llwybr arferol i Laneirwg.

X45 i Asda Bae Caerdydd

Bydd bysiau’n dilyn eu llwybr arferol i Heol Casnewydd ac yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Rhodfa’r Orsaf a Bute Terrace lle bydd arhosfan dros dro ar gael ychydig cyn Gwesty’r Radisson Blu.

Yna, bydd bysiau’n mynd i Asda Bae Caerdydd dan bont Bute Street ac ar hyd Sgwâr Callaghan a Heol Penarth cyn ailymuno â’u llwybr arferol.

X59

Bydd bysiau’n dilyn eu llwybr arferol – dim newid.

 

Yn ôl