Problemau teithio

Gwaherddir unrhyw berson rhag mynd ar hyd y llwybr beicio o gylchfan Oxford Street i gyfeiriad y de am 1.1 cilomedr.

Mae’n rhaid cau’r llwybr er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd gan fod rhan o’r llwybr beicio wedi dymchwel.

Disgwylir i’r llwybr fod ar gau o 15 Chwefror 2019 ymlaen am gyfnod o 21 diwrnod.

Tra bydd y llwybr ar gau, bydd y llwybr amgen fel a ganlyn:

O ochr ogleddol y rhan o’r llwybr sydd ar gau, ewch ar hyd yr A4054 Heol Caerdydd i ochr ddeheuol y rhan sydd ar gau.

Yn ôl