Problemau teithio

Effaith y Gorchymyn fydd cau Cardiff Street, Aberdâr dros dro, a hynny lle mae'r Gofeb Ryfel i'r de o Sgwâr Fictoria.

Mae angen cau'r ffordd yma fel bod modd cynnal gwaith arni neu yn ei hymyl.

Mae disgwyl i'r Gorchymyn fod mewn grym rhwng 9.30am a 3.30pm ar 24 Mawrth 2019, neu hyd nes i'r gwaith gael ei orffen.

Bydd mynediad ar gyfer cerddwyr ond fydd DIM mynediad ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys.

 

Mae llwybr arall i gerbydau fel a ganlyn:

O ochr ogleddol y ffordd sydd ar gau, ewch ar hyd yr A4233 Sgwâr Fictoria, yr A4233 Y Stryd Fawr, ymlaen i'r A4233, yr A4059 tua'r de ac i'r B4275 Cardiff Street i ochr ddeheuol y ffordd sydd ar gau.

Yn ôl