Problemau teithio

Mae Stagecoach wedi cyflwyno Parth Tocynnau newydd sbon sy’n cynnwys llawer o Flaenau Gwent. Nod y datblygiad hwn yw sicrhau bod gwasanaeth E3 yn gallu cysylltu â gwasanaethau eraill, ac o ganlyniad nid yw’r parth tocynnau newydd yn cynnwys Tredegar ar hyn o bryd. Bydd y tocynnau’n ddilys ar ran o wasanaethau X4 ac X15 ac ar y cyfan o wasanaethau E2, E3 ac E4. Byddant hefyd yn ddilys ar ran fach o lwybr bysiau 21 oherwydd bod y llwybr hwnnw yn mynd i’r parth dan sylw.

Cliciwch yma i weld yr ardal y mae’r tocyn undydd ‘dayrider’ yn ddilys ynddi. Gellir prynu’r tocyn hwn gan y gyrrwr bws ar y diwrnod yr ydych yn teithio yn y parth dan sylw. Gellir ei brynu ymlaen llaw hefyd trwy Ap Stagecoach Bus.

Ar hyn o bryd, mae tocynnau oedolion yn £6.70, mae tocynnau plant neu ddeiliaid fyngherdynteithio (16 i dan 22 oed) yn £4.40 neu mae tocyn teulu ar gyfer hyd at ddau oedolyn a thri phlentyn yn £13.40.

Yn ôl