Problemau teithio

Cofiwch y bydd newidiadau’n cael eu gwneud i nifer o wasanaethau bws o 31/3/2019 ac 1/4/2019 ymlaen.

Gellir gweld y newidiadau hynny ar ein tudalen Amserlenni pan fyddwch yn chwilio am rif eich llwybr, felly cofiwch ddarllen y wybodaeth yn ofalus cyn teithio.

Gallwch glicio ar y dolenni cyswllt isod i weld trosolwg o’r newidiadau i wasanaethau gan amryw weithredwyr.

 

Arriva Cymru

Newidiadau i wasanaethau yn Wrecsam (o 31/3/2019 ymlaen)

  • Gwasanaeth 4 – Bydd rhif y gwasanaeth yn ystod y cyfnodau lleiaf prysur yn cael ei newid i 4B, mae’r amserlen yn newid, ni fydd mwyach yn gwasanaethu Pen-y-cae.
  • Gwasanaeth 4A – Mae’r amserlen yn newid, ni fydd mwyach yn gwasanaethu ystâd Moreton.
  • Gwasanaeth 12 – Mae’r amserlen ar gyfer teithiau’n gynnar yn y bore yn newid.
  • Gwasanaeth 21 – Mae’r amserlen yn newid.
  • Gwasanaeth 26 – Bydd rhif y gwasanaeth yn cael ei newid i 27, mae’r amserlen yn newid, ni fydd mwyach yn gwasanaethu ystâd Pendine Way.
  • Gwasanaeth 33 – Bydd rhif y teithiau cyntaf a’r teithiau hwyr yn cael ei newid i X33.
  • Gwasanaethau 42, 44 – Bydd y gwasanaethau hyn yn dod i ben.

 

Newidiadau i wasanaeth 11A rhwng Caer a’r Wyddgrug (o 1/4/2019 ymlaen)

Rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaethau y tendrwyd amdanynt yng Ngwynedd (o 31/3/2019 ymlaen)

 

Bws Caerdydd

Newidiadau i amryw wasanaethau (o 31/3/2019 ymlaen)*

  • Mae’r amserlenni yn newid ar wasanaethau 1, 4, 9, 13, 17/18, 21/23, 24, 25, 27, 30, 35, 49/50, 7/8, 63/63A, 95, 100 ac X45.
  • Bydd Baycar (gwasanaeth 6) yn gweithredu rhwng Parc Cathays, canol y ddinas a Chanolfan y Mileniwm, ac ni fydd mwyach yn gwasanaethu Porth Teigr.
  • Mae gwasanaeth 9C yn llwybr newydd rhwng Channel View a chanol y ddinas, ac mae’n cymryd lle gwasanaeth 54 sy’n dod i ben.
  • Bydd gwasanaeth 11 yn cael ei ailgyflwyno, a bydd yn cymryd lle gwasanaeth 61 sy’n rhannu’n ddau yng nghanol y ddinas. Bydd gwasanaeth 11 yn gweithredu rhwng Heol Pont-yr-Aes a Tesco Pengam Green drwy’r Sblot a Thremorfa.
  • Bydd gwasanaethau 28, 28A a 28B yn gweithredu’n awr o Richmond Road i Ysgol Uwchradd Caerdydd ar hyd Albany Road, Wellfield Road, Ninian Road, Lake Road East, Lakeside Drive a Celyn Avenue. Ni fyddant yn gwasanaethu Mackintosh Place, Shirley Road a Lake Road West.
  • Bydd gwasanaeth 52 yn cael ei ymestyn (i 2 fws yr awr) i Gyncoed, Hampton Crescent East a Black Oak Road, a bydd yn cymryd lle gwasanaeth 54 sy’n dod i ben.
  • Bydd gwasanaeth 61 yn rhannu yng nghanol y ddinas, ac ni fydd mwyach yn mynd ymlaen i Bengam Green. Bydd gwasanaeth 61 yn mynd o Heol y Porth i Bentre-baen.
  • Bydd gwasanaethau 64 a 65 yn cael eu rhannu’n ddau wasanaeth ar wahân. Bydd gwasanaeth 64 yn mynd o Heol y Porth i Ysbyty’r Waun drwy Dreganna, Y Tyllgoed, Danescourt, Ystum Taf, Yr Eglwys Newydd a Llwynbedw. Bydd gwasanaethau 65 a 65A yn mynd o Ysbyty’r Waun i Lanrhymni a Llaneirwg drwy’r Rhath, Colchester Avenue a Heol Casnewydd.
  • Bydd gwasanaeth 95A yn mynd o Stryd Wood (arhosfan JR) i Benarth gan alw heibio i safle Parcio a Theithio Lecwydd, Ysbyty Llandochau, Redlands Road a Stanwell Road (ni fydd yn gwasanaethu ystâd Cowslip).
  • Bydd gwasanaeth 95B yn mynd o Stryd Wood (arhosfan JR) i safle Parcio a Theithio Lecwydd yn unig (mae rhif gwasanaeth 95C wedi cael ei newid i 95B).
  • Yn anffodus, oherwydd nad oes llawer o bobl yn eu defnyddio, bydd gwasanaethau 9A, 12, 54, 86 ac X91 yn dod i ben.

* rydym yn gobeithio rhoi’r newidiadau canlynol ar ein gwefan cyn gynted ag sy’n bosibl:

Bydd Stagecoach yn Ne Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am weithredu gwasanaethau 12 ac 86 Caerdydd o 31/3/2019 ymlaen.

Ni fydd Stagecoach yn Ne Cymru yn rhoi’r gorau i weithredu gwasanaethau 15, 51, 53 a 66 a bydd yn parhau i weithredu ei lwybrau a’i amserlenni presennol.

Bydd gwasanaeth 9C, sy’n wasanaeth newydd, yn cael ei gyflwyno yn lle bysiau 54 a 9A i Channel View. Bydd gwasanaeth 9C yn mynd o ganol y ddinas i Channel View yn unig o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ni fydd yn gweithredu ar ddydd Sul).

 

First Cymru

Ymestyn gwasanaeth X6 i Allt-wen (o 31/3/2019 ymlaen)

 

Stagecoach yn Ne Cymru

Cymryd y cyfrifoldeb am weithredu llwybrau 12 ac 86 Caerdydd (o 1/4/2019 ymlaen)

Yn ôl