Problemau teithio

*** Bydd Gorsaf Fysiau Casnewydd yn ailagor ar 8/7/2019. Cliciwch yma i weld y trefniadau newydd ar gyfer arosfannau.

Stagecoach

Oherwydd Cam II y gwaith o roi wyneb newydd ar y lonydd yng Ngorsaf Fysiau Casnewydd, o ddydd Mercher 15 Mai ymlaen, bydd Gorsaf Fysiau Sgwâr y Farchnad Casnewydd ar gau yn ei chyfanrwydd. 

Bydd gwasanaethau Stagecoach yn symud i’r arosfannau bysiau canlynol yn QUEENSWAY:

Queensway:

  • Q4 – Gwasanaeth X24 GOLD / 24 i Gwmbrân (gwasanaeth cyflym) ac yna i Bont-y-pŵl, Varteg Hill a Blaenafon (arhosfan 22 yn yr orsaf fysiau’n flaenorol)
  • Q6 – Gwasanaeth 151 GOLD i Risga, Crosskeys, Trecelyn a Choed-duon (dim newid i’r arhosfan presennol) 
  • Q7 – Gwasanaeth 56 / R1 i Crosskeys, Coed-duon, Markham a Thredegar (dim newid i’r arhosfan presennol)
  • Q7 – Gwasanaeth R1 i Dŷ-du, Rhisga a Phontymister (dim newid i’r arhosfan presennol)
  • Q8 – Gwasanaeth 50 i Gaerffili a Bargoed (yn symud o arhosfan Q4)
  • Q8 – Gwasanaeth 50A heibio i Ysbyty Brenhinol Gwent i Gaerffili a Bargoed (yn symud o arhosfan Q4)
  • Q8 – Gwasanaeth X15 i Drecelyn, Abertyleri a Bryn-mawr
  • Q8 – Gwasanaeth 15 i Gwmbrân, New Inn a Phont-y-pŵl
  • Q8 – Ar ddydd Sul yn unig, gwasanaeth 60 i Raglan a Threfynwy
  • Q8 – Ar ddydd Sul yn unig, gwasanaeth 74 i Gil-y-coed a Chas-gwent 

 

New Adventure Travel

New Adventure Travel 

Oherwydd bod Gorsaf Fysiau Sgwâr y Farchnad yng Nghasnewydd ar gau, bydd bws rhif X5 yn ymadael dros dro o arhosfan Q2 Queensway nes y clywch yn wahanol.  

I fynd o Sgwâr y Farchnad i Queensway er mwyn dal bws rhif X5, dilynwch y cyfarwyddiadau isod. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar y map yma.  

Cyfarwyddiadau: 

Ewch i gyfeiriad y gogledd o Orsaf Fysiau Sgwâr y Farchnad, tuag at Queensway.  

Cadwch i’r chwith wrth fynd o amgylch y gylchfan.  

Ewch ar hyd Queensway i faes parcio’r NCP. Mae arhosfan bysiau Q2 dan y maes parcio.  

Yn ôl