Problemau teithio

Er mwyn gosod pibell newydd yn lle’r brif bibell nwy sydd dan wyneb y ffordd, bydd yn rhaid cau Heol Llanilltud Fach i gerbydau, i’r ddau gyfeiriad, rhwng cyffyrdd Pen y Dre a Heol Digby.

Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun 15 Ebrill a disgwylir y bydd yn cymryd oddeutu tair wythnos i’w gwblhau. Bydd y ffordd ar gau tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo.

Ni fydd gwasanaeth bws X7 First Cymru yn gweithredu rhwng Ysbyty Tonna a Llanilltud Fach yn ystod y cyfnod dan sylw.

Fodd bynnag, yn dilyn trafodaethau, bydd cwmni Wales and West Utilities yn darparu bws gwennol yn lle gwasanaeth First Cymru tra bydd y ffordd ar gau.

 

Please click here to see a timetable for the shuttle service.

 

Bydd y bws gwennol yn dechrau o gyffordd Heol Fairyland wrth ymyl Mynwent Llanilltud Fach ac yn stopio wrth bob arhosfan bysiau dynodedig hyd at Ysbyty Tonna. Ni chodir unrhyw dâl am deithio ar y cerbyd hwn.

Yna, gall teithwyr sydd am barhau i deithio i gyfeiriad Castell-nedd neu Lyn-nedd ddal gwasanaeth X7 First Cymru. Bydd yn rhaid talu am y gwasanaeth hwnnw yn ôl yr arfer.

Bydd y bws gwennol yn cwrdd â’r holl deithwyr sy’n dychwelyd ar wasanaeth X7 wrth ymyl Ysbyty Tonna ac yn eu cludo’n ôl i lawr i Fynwent Llanilltud Fach.

Mae amserlen wedi’i llunio ar gyfer y bws gwennol a bydd i’w gweld wrth bob un o’r arosfannau bysiau sydd ar hyd y llwybr yr effeithir arno, rhwng Mynwent Llanilltud Fach a Thonna. 

Ni fydd y bws gwennol yn gweithredu ar ddydd Sul nac ar ddydd Llun Gŵyl y Banc.

Yn ôl