Problemau teithio

Gwaherddir unrhyw un rhag mynd ar hyd y bont reilffordd wrth gyffordd Park Street a Wood Road yn Nhrefforest, Pontypridd

Rhaid cau’r ffordd er mwyn hwyluso gwaith atgyweirio brys ar ffordd sy’n cynnal pont reilffordd

Disgwylir y bydd y ffordd ar gau yn ystod y diwrnodau a’r amserau canlynol neu nes y bydd y gwaith wedi’i gwblhau:-

 

Cau’r ffordd dros nos

  • Rhwng 11:00pm nos Sadwrn 13 Ebrill a 12 canol dydd ddydd Sul 14 Ebrill 2019

 

Cau’r ffordd yn ystod y dydd

  • Rhwng 8:00am a 5:00pm o ddydd Llun 15 Ebrill i ddydd Gwener 19 Ebrill 2019
  • Rhwng 8:00am a 5:00pm o ddydd Llun 22 Ebrill i ddydd Mercher 24 Ebrill 2019

 

Cau’r ffordd dros nos

  • Rhwng 11:00pm nos Iau 25 Ebrill a 6:00am ddydd Gwener 26 Ebrill 2019

 

Dyma’r llwybr amgen y dylid ei ddefnyddio tra bydd y ffordd ar gau:

O ochr orllewinol y dargyfeiriad, ewch ar hyd Wood Road, Rickards Street, Union Street, High Street, Llantrisant Road, Factory Lane, Sardis Road, Mill Street (yr A4058), Sardis Road (yr A4058), Broadway (yr A4058) a Broadway (y B4595) hyd at ddiwedd y dargyfeiriad

O ochr ddwyreiniol y dargyfeiriad, ewch ar hyd Fothergill Street (y B4595), Broadway (y B4595), Broadway (yr A4058), Sardis Road (yr A4058), Sardis Road, Factory Lane, Llantrisant Road, High Street ac Union Street hyd at ddiwedd y dargyfeiriad

 

NI fydd modd sicrhau mynediad i gerbydau’r gwasanaethau brys

 

Bydd modd sicrhau mynediad i gerddwyr

Yn ôl