Bydd rhai o wasanaethau bws Arriva yn ardal Caer yn newid o ddydd Sul 28 Ebrill 2019 ymlaen.
Gwasanaethau 4 ac X4
Bydd yr amserau’n cael eu newid. Bydd gwasanaeth X4 yn cael ei newid fel ei fod yn gweithredu rhwng yr Wyddgrug a Chaer yn unig. Ni fydd mwyach yn mynd mor bell ag Ellesmere Port.
Gwasanaethau 10 a 10A
Bydd gwasanaeth 10A yn cael ei newid fel ei fod yn gweithredu rhwng Caer a’r Fflint yn unig. Ni fydd mwyach yn gwasanaethu Treffynnon.
Gwasanaeth 12
Bydd y gwasanaeth hwn yn dod i ben.
Gwasanaeth 13
Bydd y gwasanaeth yn cael ei newid fel ei fod yn gweithredu rhwng Caer a’r Wyddgrug drwy Ben-y-ffordd i’r ddau gyfeiriad.