Problemau teithio

Bydd y Gorchymyn yma yn cau'r rhan ganlynol o'r llwybr troed dros dro:

Llwybr Troed 41 Llantrisant

Y rhan yna o'r llwybr sy'n cychwyn ar ei gyffordd â Llwybr Troed 40 Llantrisant, 80 metr i'r de-orllewin o Ganolfan Feddygol Cwm Gwyrdd, Stryd Fawr, Y Gilfach-goch a 25 metr i'r dwyrain o afon Ogwr Fach (cyfeirnod grid SS97838897) ac yn parhau tua'r dwyrain yn gyffredinol am 80 metr, gan ddod i ben 50 metr i'r de o Ganolfan Feddygol Cwm Gwyrdd (cyfeirnod grid SS97908898).

Mae angen cau'r llwybr troed er lles diogelwch y cyhoedd tra bydd tai newydd yn cael eu hadeiladu wrth ei ymyl. Pan fydd y llwybr troed ar gau, y rhwydwaith priffyrdd presennol fydd y llwybr amgen.

Mae disgwyl i'r Gorchymyn fod mewn grym o 29 Ebrill 2019 am 6 mis, neu hyd nes y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.

 

Yn ôl