Problemau teithio

Bydd y Gorchymyn yma yn cau'r rhan ganlynol o'r llwybr ceffylau dros dro:

Llwybr Ceffylau 24 Llanhari

Y rhan yna o Lwybr Ceffylau 24 Llanhari sy'n cychwyn ar ffordd Llanharan–Llanhari, gyferbyn â Gwinllan Naboth (cyfeirnod grid ST00638078), ac sy'n mynd tua'r gorllewin am 1,400 o fetrau, i'r gogledd o Goed-y-wiw, ac ar hyd ymyl ddeheuol Coed Wain-fraith, ac sy'n gorffen ar y ffordd sirol (cyfeirnod grid SS9939805).

Mae angen y cyfyngiad yma er diogelwch y cyhoedd. Pan fydd y llwybr troed ar gau, y rhwydwaith priffyrdd presennol fydd y llwybr amgen.

Mae disgwyl i'r Gorchymyn fod mewn grym o 26 Ebrill 2019 am 6 mis, neu hyd nes y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.

Yn ôl