Problemau teithio

Nodwch fod gwaith helaeth yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar yr A465, sef Ffordd Blaenau’r Cymoedd. Mae’r ffordd yn cael ei hymestyn i greu ffordd ddeuol, a bydd rhannau ohoni ar gau dros nos.

O ganlyniad, mae’n bosibl na fydd y mapiau sydd ar ein tudalennau ar gyfer amserlenni a chanlyniadau’r cynlluniwr taith yn adlewyrchu’n hollol gywir y llwybrau y bydd gwasanaethau’n eu dilyn yn yr ardal hon. Y rheswm am hynny yw bod trefn y ffyrdd yn newid yn ddyddiol, gyda chylchfannau a chyffyrdd dros dro newydd yn ymddangos er mwyn ceisio sicrhau mynediad parhaus i drefi a phentrefi yn yr ardal.

Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Yn ôl