Problemau teithio

Effaith y Gorchymyn fydd cau'r rhan o dan bont y rheilffordd ar Ynysmeurig Road dros dro.

Llwybr Amgen – o ochr ddwyreiniol y rhan sydd wedi'i chau, ewch ymlaen ar hyd y B4275, yr A4054, yr A472, yr A4059, y B4275 i ochr orllewinol y rhan sydd wedi'i chau. Ar gyfer cerbydau sy'n teithio i'r cyfeiriad arall, newidiwch y drefn uchod.

Mae angen y cyfyngiad fel bydd modd cynnal y gwaith ar y ffordd neu yn ei hymyl.

Mae disgwyl i'r Gorchymyn fod mewn grym o 11.00pm ar 15 Mai 2019 hyd at 5.30am ar 18 Mai 2019, neu hyd nes y bydd y gwaith wedi'i gwblhau.

Bydd mynediad ar gael i gerddwyr a cherbydau'r gwasanaethau brys. Bydd cerddwyr yn cael eu hebrwng drwy'r ochr pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.

Dylech nodi y gallai hynny amharu rhywfaint ar wasanaethau bws lleol.

Yn ôl