Problemau teithio

Tra bydd yr A466 ar gau rhwng Tyndyrn a Llanarfan am gyfnod arfaethedig o saith wythnos, o 7 Mai 2019 ymlaen, nodwch y bydd gwasanaeth 69 Phil Anslow o Gas-gwent i Drefynwy yn gweithredu amserlen dros dro. Bydd yr amserlen ar waith o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Bws mini fydd yn teithio ar hyd llwybr y dargyfeiriad rhwng Abaty Tyndyrn a Chas-gwent. Bydd angen i deithwyr sydd am deithio ymhellach i’r naill gyfeiriad neu’r llall newid bws wrth ymyl Abaty Tyndyrn.

Bydd Stagecoach yn Ne Cymru yn gweithredu gwasanaeth mwy cyfyngedig ar ddydd Sul.

Rydym yn gobeithio rhoi’r wybodaeth hon am yr amserlen ar ein gwefan cyn gynted ag sy’n bosibl. Yn y cyfamser, gallwch weld yr amserlen isod. Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

 

69 (Cas-gwent - Trefynwy) Amserlen dydd Llun i ddydd Gwener

69 (Cas-gwent - Trefynwy) Amserlen dydd Sadwrn

69 (Cas-gwent-Trefynwy) – Amserlen Dydd Sul

Yn ôl