Please be aware that this game has been postponed "in line with recent measures taken across the UK and global sports industries" due to the COVID-19 outbreak.
You can find more information on the Principality Stadium website.
Cardiff Council will no longer be implementing road closures on this day.
Y gic gyntaf: 14:15
Ddydd Sadwrn 14 Mawrth, bydd pob un o ffyrdd canol y ddinas ar gau o 10:45 tan 17:15 pan fydd Cymru yn herio’r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae manylion y gwasanaethau a fydd yn cael eu dargyfeirio yn ystod y cyfnod dan sylw i’w gweld isod.
Cyngor Caerdydd
Bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau rhwng 10:45 – 17:15.
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau’n gynnar yn y dydd oherwydd yr angen i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau pan fydd holl ffyrdd canol y ddinas yn cael eu cau:
- Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
- Stryd Tudor o’r gyffordd â Clare Road i’r gyffordd
- Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
- Heol Saunders o’r gyffordd â Heol Eglwys Fair.
- Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).
- Heol Penarth o’r gyffordd â Heol Saunders i’r fynedfa sy’n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Y Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy gydol y dydd, a chaniateir mynediad yn unig ar gyfer parcio at ddiben y cyngerdd, rhywfaint o barcio i gymudwyr, llwytho a chael mynediad i feysydd parcio preifat. Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys: Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.
Dim ond bysiau fydd yn gallu cael mynediad i Rodfa’r Orsaf / Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd i’r gyffordd â Ffordd Churchill i gyfeiriad y de, drwy gydol y cyfnod y bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau. Diben hynny yw sicrhau bod bysiau’n gallu cael mynediad i’r arosfannau bysiau ategol yn Ffordd Churchill.
Noder:
Os bydd unrhyw bryderon ynghylch diogelwch oherwydd bod torfeydd yn ciwio i fynd i mewn i’r lleoliad cyn bod y gatiau’n agor, mae’n bosibl y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach ac y bydd angen cau lonydd ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen wrth ymyl Gât 1.
Os bydd unrhyw bryderon ynghylch diogelwch oherwydd y system giwio yng ngorsaf drenau Caerdydd Canolog, bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty yn parhau ar gau nes bod y pryderon ynghylch diogelwch wedi’u datrys.
Trafnidiaeth Cymru
Hoffai Trafnidiaeth Cymru ddweud wrth ei holl gwsmeriaid bod disgwyl i drenau yn ardal Caerdydd fod yn brysur drwy’r dydd. Caiff y sawl a fydd yn teithio i’r ddinas i wylio’r gêm eu cynghori i ganiatáu digon o amser ar gyfer eu taith.
Please click here to see the queing system that will be in place at Cardiff Central Station.
o 10:45 tan 17:45
Rhif y llwybr |
Man ymadael yng nghanol y ddinas |
1 and 2 ▲ |
Canal Street |
6 (baycar) ● |
Heol y Tollty |
8, 9 a 9C i Fae Caerdydd neu’r Pentre Chwaraeon |
Heol Pont-yr-Aes (JH) |
8, 9 i Ysbyty’r Waun |
Ffordd Churchill |
11 | Ffordd Churchill |
13 i Fae Caerdydd neu’r Pentre Chwaraeon |
Heol Pont-yr-Aes (JH) |
13 i’r Ddrôp |
Stryd Tudor |
15 |
Stryd Tudor |
17 ac 18 |
Stryd Tudor |
21, 23 a 24 |
Heol y Brodyr Llwydion |
25 |
Stryd Tudor |
27 |
Heol y Brodyr Llwydion |
28, 28A a 28B |
Heol y Brodyr Llwydion |
30 |
Heol y Brodyr Llwydion |
35 |
Heol y Brodyr Llwydion |
44, 45, 45B |
Ffordd Churchill |
49 a 50 |
Ffordd Churchill |
51 |
Heol y Brodyr Llwydion |
52 |
Ffordd Churchill |
53 |
Heol y Brodyr Llwydion |
57 a 58 |
Ffordd Churchill |
61 |
Stryd Tudor |
62, 63 a 63A |
Stryd Tudor |
64 |
Stryd Tudor |
66 |
Stryd Tudor |
91 | Heol y Tollty |
92, 92B, 93, 94 a 94B |
Ddydd Llun i ddydd Sadwrn, Heol y Tollty tan 19:00 neu Stryd Tudor ar ôl 19:00 nes y bydd y ffyrdd ar agor. Ar ddydd Sul a dydd Llun Gŵyl y Banc bydd y bysiau’n cyrraedd ac yn ymadael o Stryd Tudor drwy gydol y dydd. |
95 i’r Barri |
Stryd Tudor |
95 i Ysbyty’r Waun |
Heol y Brodyr Llwydion |
95A a 95B |
Stryd Tudor |
96 a 96A |
Stryd Tudor |
X45 i gyfeiriad Llaneirwg |
Ffordd Churchill |
X45 i gyfeiriad Parc Manwerthu Bae Caerdydd | Heol Pont-yr-Aes (JH) |
X59 |
Plas Dumfries HV |
CCFC Shuttle Bus | Stryd Tudor |
▲ Ar ddiwrnod y digwyddiad, ni fydd gwasanaethau rhif 1 a 2 yn gwasanaethu’r tu cefn i’r Orsaf Reilffordd Ganolog (arosfannau JM a JN) ar ôl i’r ffyrdd gael eu cau.
● Ar ddiwrnod y digwyddiad, bydd y gwasanaeth baycar yn gweithredu rhwng canol y ddinas (Heol y Tollty – JG) a Bae Caerdydd yn unig. Ni fydd yn gwasanaethu cylch canol y ddinas na’r tu cefn i’r Orsaf Reilffordd Ganolog (arhosfan JM) ar ôl i’r ffyrdd gael eu cau.
Stagecoach yn Ne Cymru
Bydd pob un o fysiau Stagecoach yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion drwy gydol dydd Sadwrn.
- Bydd gwasanaethau T4 a T14 TrawsCymru a gwasanaethau 132 ac X4 Stagecoach yn gadael o arhosfan bysiau GN.
- Bydd gwasanaethau 86, 26, 136 ac X3 Stagecoach yn gadael o arhosfan bysiau GH.
- Bydd gwasanaethau 122 a 124 Stagecoach yn dal i adael o arhosfan bysiau GE/GF.
Bydd dargyfeiriadau ychwanegol ar waith fel a ganlyn yng nghyswllt gwasanaethau penodol:
-
Gwasanaethau 122/124: Byddant yn cael eu dargyfeirio drwy Gyfnewidfa Gabalfa ac ar hyd Heol y Gogledd o 10:00 tan 18:00 ac ni fyddant yn gwasanaethu Heol y Gadeirlan.
-
Gwasanaeth 132: Ni fydd yn gwasanaethu Bae Caerdydd drwy gydol y dydd.
Newport Bus
Bydd bysiau gwasanaeth 30 yn dechrau ac yn gorffen eu taith o arhosfan bysiau Heol y Brodyr Llwydion rhwng 10:45 a 17:45.
NAT
10:45-17:15