Problemau teithio

 

Please be aware that this game has been postponed "in line with recent measures taken across the UK and global sports industries" due to the COVID-19 outbreak.

You can find more information on the Principality Stadium website.

Cardiff Council will no longer be implementing road closures on this day.

 

 

 

 

Y gic gyntaf: 14:15

Ddydd Sadwrn 14 Mawrth, bydd pob un o ffyrdd canol y ddinas ar gau o 10:45 tan 17:15 pan fydd Cymru yn herio’r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae manylion y gwasanaethau a fydd yn cael eu dargyfeirio yn ystod y cyfnod dan sylw i’w gweld isod.

 

Cyngor Caerdydd

Trafnidiaeth Cymru

Bws Caerdydd

Stagecoach yn Ne Cymru

Newport Bus

NAT

 

 

Cyngor Caerdydd

Bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau rhwng 10:45 – 17:15.

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau’n gynnar yn y dydd oherwydd yr angen i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau pan fydd holl ffyrdd canol y ddinas yn cael eu cau:

  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Clare Road i’r gyffordd
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Heol Saunders o’r gyffordd â Heol Eglwys Fair.
  • Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).
  • Heol Penarth o’r gyffordd â Heol Saunders i’r fynedfa sy’n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Y Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.

 

Ychwanegiadau:

Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy gydol y dydd, a chaniateir mynediad yn unig ar gyfer parcio at ddiben y cyngerdd, rhywfaint o barcio i gymudwyr, llwytho a chael mynediad i feysydd parcio preifat. Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys: Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

Dim ond bysiau fydd yn gallu cael mynediad i Rodfa’r Orsaf / Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd i’r gyffordd â Ffordd Churchill i gyfeiriad y de, drwy gydol y cyfnod y bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau. Diben hynny yw sicrhau bod bysiau’n gallu cael mynediad i’r arosfannau bysiau ategol yn Ffordd Churchill. 
 

Noder:

Os bydd unrhyw bryderon ynghylch diogelwch oherwydd bod torfeydd yn ciwio i fynd i mewn i’r lleoliad cyn bod y gatiau’n agor, mae’n bosibl y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach ac y bydd angen cau lonydd ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen wrth ymyl Gât 1.

Os bydd unrhyw bryderon ynghylch diogelwch oherwydd y system giwio yng ngorsaf drenau Caerdydd Canolog, bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty yn parhau ar gau nes bod y pryderon ynghylch diogelwch wedi’u datrys. 

 

 

Trafnidiaeth Cymru

Hoffai Trafnidiaeth Cymru ddweud wrth ei holl gwsmeriaid bod disgwyl i drenau yn ardal Caerdydd fod yn brysur drwy’r dydd. Caiff y sawl a fydd yn teithio i’r ddinas i wylio’r gêm eu cynghori i ganiatáu digon o amser ar gyfer eu taith.

Please click here to see the queing system that will be in place at Cardiff Central Station.

 

 

Bws Caerdydd

o 10:45 tan 17:45

Rhif y llwybr

Man ymadael yng nghanol y ddinas 

1 and 2 ▲

Canal Street

6 (baycar)

Heol y Tollty

8, 9 a 9C i Fae Caerdydd neu’r Pentre Chwaraeon

Heol Pont-yr-Aes (JH)

8, 9 i Ysbyty’r Waun

Ffordd Churchill 

11 Ffordd Churchill 

13 i Fae Caerdydd neu’r Pentre Chwaraeon

Heol Pont-yr-Aes (JH)

13 i’r Ddrôp

Stryd Tudor

15

Stryd Tudor

17 ac 18

Stryd Tudor

21, 23 a 24

Heol y Brodyr Llwydion

25

Stryd Tudor 

27

Heol y Brodyr Llwydion

28, 28A a 28B

Heol y Brodyr Llwydion

30

Heol y Brodyr Llwydion

35

Heol y Brodyr Llwydion

44, 45, 45B

Ffordd Churchill

49 a 50

Ffordd Churchill

51

Heol y Brodyr Llwydion

52

Ffordd Churchill

53

Heol y Brodyr Llwydion

57 a 58

Ffordd Churchill

61 

Stryd Tudor

62, 63 a 63A

Stryd Tudor

64

Stryd Tudor

66

Stryd Tudor

91 Heol y Tollty

92, 92B, 93, 94 a 94B

Ddydd Llun i ddydd Sadwrn, Heol y Tollty tan 19:00 neu Stryd Tudor ar ôl 19:00 nes y bydd y ffyrdd ar agor. Ar ddydd Sul a dydd Llun Gŵyl y Banc bydd y bysiau’n cyrraedd ac yn ymadael o Stryd Tudor drwy gydol y dydd.   

95 i’r Barri

Stryd Tudor

95 i Ysbyty’r Waun

Heol y Brodyr Llwydion

95A a 95B

Stryd Tudor

96 a 96A

Stryd Tudor

X45 i gyfeiriad Llaneirwg

Ffordd Churchill

X45 i gyfeiriad Parc Manwerthu Bae Caerdydd Heol Pont-yr-Aes (JH)

X59

Plas Dumfries HV

CCFC Shuttle Bus Stryd Tudor

 

▲ Ar ddiwrnod y digwyddiad, ni fydd gwasanaethau rhif 1 a 2 yn gwasanaethu’r tu cefn i’r Orsaf Reilffordd Ganolog (arosfannau JM a JN) ar ôl i’r ffyrdd gael eu cau.

● Ar ddiwrnod y digwyddiad, bydd y gwasanaeth baycar yn gweithredu rhwng canol y ddinas (Heol y Tollty – JG) a Bae Caerdydd yn unig. Ni fydd yn gwasanaethu cylch canol y ddinas na’r tu cefn i’r Orsaf Reilffordd Ganolog (arhosfan JM) ar ôl i’r ffyrdd gael eu cau.

 

 

Stagecoach yn Ne Cymru

Bydd pob un o fysiau Stagecoach yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion drwy gydol dydd Sadwrn. 

  • Bydd gwasanaethau T4 a T14 TrawsCymru a gwasanaethau 132 ac X4 Stagecoach yn gadael o arhosfan bysiau GN.
  • Bydd gwasanaethau 86, 26, 136 ac X3 Stagecoach yn gadael o arhosfan bysiau GH.
  • Bydd gwasanaethau 122 a 124 Stagecoach yn dal i adael o arhosfan bysiau GE/GF.

Bydd dargyfeiriadau ychwanegol ar waith fel a ganlyn yng nghyswllt gwasanaethau penodol:

  • Gwasanaethau 122/124: Byddant yn cael eu dargyfeirio drwy Gyfnewidfa Gabalfa ac ar hyd Heol y Gogledd o 10:00 tan 18:00 ac ni fyddant yn gwasanaethu Heol y Gadeirlan.

  • Gwasanaeth 132: Ni fydd yn gwasanaethu Bae Caerdydd drwy gydol y dydd.

 

 

Newport Bus

Bydd bysiau gwasanaeth 30 yn dechrau ac yn gorffen eu taith o arhosfan bysiau Heol y Brodyr Llwydion rhwng 10:45 a 17:45.

 

 

NAT

10:45-17:15

Yn ôl