First Cymru
Ar 15 Mehefin, bydd cymal olaf Taith Merched OVO Energy 2019 yn cael ei gynnal o amgylch Sir Gâr.
Dylai defnyddwyr gwasanaethau bws ddisgwyl rhai problemau teithio wrth i ffyrdd gael eu cau dros dro ac effeithio ar wasanaethau bws lleol.
Gwasanaeth 103: Llandybie – Rhydaman
- Ni fydd bws 12:05 o Rydaman yn teithio.
- Ni fydd bws 12:20 o Landybie yn teithio.
Gwasanaeth 124: Brynaman – Rhydaman
- Bydd bws 11:59 o Frynaman yn teithio tua 30 munud yn hwyrach na’i amser arferol er mwyn darparu llwybr clir i feicwyr y daith.
- Bydd bws 12:30 o Orsaf Fysiau Rhydaman yn teithio tua 5/10 munud yn hwyrach na’i amser arferol er mwyn darparu llwybr clir i feicwyr y daith.
Gwasanaeth 126: Cwmgwili – Rhydaman
- Bydd bws 11:49 o Gwmgwili yn gorffen ei daith wrth ymyl Wilkinsons, Rhydaman. Ni fydd yn gwasanaethu Gorsaf Fysiau Rhydaman.
Gwasanaeth 127: Garn-swllt – Rhydaman
- Bydd bws 12:20 o Orsaf Fysiau Rhydaman yn dechrau ar ei daith wrth ymyl Wilkinsons, Rhydaman yn hytrach nag o’r Orsaf Fysiau.
Gwasanaeth 128: Llanelli – Rhydaman
- Bydd bws 11:55 o Lanelli yn teithio o Crosshands drwy Dŷ-croes er mwyn cyrraedd Gorsaf Fysiau Rhydaman. Ni fydd y bws yn gwasanaethu Gors-las, Pen-y-groes, Capel Hendre, Saron a Thir-y-dail.
- Bydd bws 12:35 o Orsaf Fysiau Rhydaman yn teithio tua 5/10 munud yn hwyrach na’i amser arferol er mwyn darparu llwybr clir i feicwyr y daith.
Gwasanaeth 129: Caerfyrddin – Rhydaman
- Bydd bws 10:55 o Orsaf Fysiau Caerfyrddin yn teithio ar hyd Heol Parcdir ac yn gorffen ei daith wrth ymyl Wilkinsons, Rhydaman. Ni fydd y bws yn gwasanaethu Gorsaf Fysiau Rhydaman a Thir-y-dail.
Gwasanaeth 145: Rhydaman – Cwmaman
- Bydd bws 11:00 o Orsaf Fysiau Rhydaman yn gorffen ei daith wrth ymyl Wilkinsons, Rhydaman am 11:45. Ni fydd y bws yn gwasanaethu Gorsaf Fysiau Rhydaman wrth ddychwelyd.
Gwasanaeth 146: Rhydaman – Cwmaman
- Ni fydd bws 12:00 o Orsaf Fysiau Rhydaman yn teithio.
Gwasanaeth 195: Caerfyrddin – Llanelli
- Mae’n bosibl y bydd bws 12:45 o Orsaf Fysiau Caerfyrddin yn teithio 5 munud yn hwyrach na’i amser arferol o Bontyberem er mwyn darparu llwybr clir i feicwyr y daith.
Gwasanaeth 196: Caerfyrddin – Llanelli
- Mae’n bosibl y bydd bws 12:45 o Orsaf Fysiau Llanelli yn teithio 5 munud yn hwyrach na’i amser arferol o Bontyberem er mwyn darparu llwybr clir i feicwyr y daith.
Gwasanaeth 205: Ysbyty Glangwili – Nant yr Arian
- Bydd bws 9:45 o Ysbyty Glangwili yn teithio ar hyd yr A40 er mwyn cyrraedd Gorsaf Fysiau Caerfyrddin. Ni fydd y bws yn gwasanaethu Coedlan Belvedere.
- Bydd bws 10:00 o Orsaf Fysiau Caerfyrddin yn teithio 5 munud yn hwyrach na’i amser arferol ar hyd Heol Dŵr er mwyn darparu llwybr clir i feicwyr y daith. Ni fydd y bws yn gwasanaethu Lôn Morfa.
Gwasanaeth T1: Aberystwyth – Llanbedr Pont Steffan – Caerfyrddin
- Bydd bws 7:40 o Orsaf Fysiau Aberystwyth yn teithio ar hyd yr A40 er mwyn cyrraedd Gorsaf Fysiau Caerfyrddin. Ni fydd y bws yn gwasanaethu Ysbyty Glangwili am 9:46.
Gwasanaeth X11: Caerfyrddin – Llanelli – Abertawe
- Bydd bws 12:45 o Orsaf Fysiau Caerfyrddin yn teithio’n unol â’r amserlen, ond disgwylir rhywfaint o oedi ym Mhen-bre er mwyn darparu llwybr clir i feicwyr y daith.
- Bydd bws 12:05 o Orsaf Fysiau Llanelli yn teithio’n unol â’r amserlen, ond disgwylir rhywfaint o oedi ym Mhen-bre er mwyn darparu llwybr clir i feicwyr y daith.
Gwasanaeth X13: Llandeilo – Abertawe
- Bydd bws 11:00 o Orsaf Fysiau Abertawe yn gorffen ei daith wrth ymyl Wilkinsons, Rhydaman. Ni fydd y bws yn gwasanaethu Gorsaf Fysiau Rhydaman.
- Bydd bws 12:15 o Orsaf Fysiau Rhydaman yn dechrau ar ei daith wrth ymyl Wilkinsons, Rhydaman yn hytrach nag o’r Orsaf Fysiau.