Problemau teithio

Mae angen i Adran Delemateg Cyngor Caerdydd gyflawni mân waith ar y bolardiau sydd yn rhan ogleddol a rhan ddeheuol Heol y Porth.

Oherwydd natur y ffordd, bydd angen i’r gwaith hwnnw gael ei gyflawni yn ystod y nos gan gau’r ffordd yn gyfan gwbl.

Bwriedir cyflawni’r gwaith nos Lun 17 Mehefin, nos Fawrth 18 Mehefin a nos Fercher 19 Mehefin rhwng 20.00 a 5.00 (bob nos).

Bydd y ffordd ar gau rhwng Heol y Castell a’r gyffordd â Stryd Havelock. Dim ond i eiddo busnes/eiddo preswyl i gyfeiriad y gogledd y bydd modd sicrhau mynediad. (Noder mai o Heol y Castell y bydd modd i bobl gael mynediad i’r eiddo hwnnw.)

 

Stagecoach yn Ne Cymru:

Bydd gwasanaethau 25, 26, 132 ac X4 yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion ar ôl 19:30 oherwydd bod gwaith yn cael ei gyflawni ar y bolardiau yn Heol y Porth yng Nghaerdydd, a fydd yn golygu cau’r ffordd dros nos. 

Bydd y gwasanaethau hyn yn dychwelyd i’w trefn arferol nos Iau 20 Mehefin.

 

 

Bws Caerdydd:

Bydd y gwasanaethau canlynol yn cael eu dargyfeirio rhwng 20:00 a 5:00 bob nos:

Gwasanaethau 8 a 9

Bydd bysiau i gyfeiriad Bae Caerdydd / y Pentref Chwaraeon yn dilyn eu llwybr arferol hyd at Heol Casnewydd, ac yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Rhodfa’r Orsaf, rhan isaf Ffordd Churchill, Bute Terrace a Heol y Tollty i Heol Eglwys Fair. Gall cwsmeriaid sydd am ddal y bws yng nghanol y ddinas tra bydd y ffordd ar gau wneud hynny o’r arhosfan sydd y tu allan i’r Philharmonic ar Heol Eglwys Fair. Bydd y bysiau’n parhau ar eu taith i Fae Caerdydd / y Pentref Chwaraeon ar hyd Stryd Wood a’u llwybr arferol.

Ni fydd yr arosfannau bysiau ym Mhlas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin a Heol y Porth yn cael eu gwasanaethu.

Bydd teithiau i gyfeiriad Ysbyty’r Waun yn dilyn eu llwybr arferol.

 

Gwasanaethau 11 a 28B

Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol hyd at Heol Casnewydd, ac yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Rhodfa’r Orsaf, rhan isaf Ffordd Churchill a Bute Terrace i Heol Pont-yr-Aes lle byddant yn gorffen eu taith. Gall cwsmeriaid sydd am ddal y bws yng nghanol y ddinas wneud hynny o Heol Pont-yr-Aes.

Ni fydd yr arosfannau bysiau ym Mhlas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin, Heol y Porth a Heol Eglwys Fair yn cael eu gwasanaethu.

 

Gwasanaethau 13, 17, 18, 25, 61, 63, 64, 66 a 96A

Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu dargyfeirio ar hyd Neville Street, Despenser Gardens a Fitzhamon Embankment i Stryd Wood. Yna, bydd y bysiau’n mynd o amgylch Southgate House cyn gorffen eu taith yn Stryd Wood. Gall cwsmeriaid sydd am ddal y bws yng nghanol y ddinas yn ystod y cyfnod dan sylw wneud hynny o Stryd Wood. Bydd gwasanaethau 13, 25, 61, 63, 64, 66 a 96A yn defnyddio arhosfan JR ar Stryd Wood a bydd gwasanaethau 17 ac 18 yn defnyddio arhosfan JQ. Mae’r ddau arhosfan hyn yn y Sgwâr Canolog newydd. Bydd y bysiau’n gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor.

Ni fydd yr arosfannau bysiau wrth ymyl Ysbyty Dewi Sant a Phont Caerdydd ac yn Heol y Porth yn cael eu gwasanaethu tra bydd y ffordd ar gau.

 

Gwasanaethau 21, 23, 24 a 27

Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol hyd at Heol y Castell, ac yna’n cael eu dargyfeirio dros Bont Caerdydd ac ar hyd rhan isaf Heol y Gadeirlan, Despenser Gardens, Fitzhamon Embankment a Stryd Wood. Bydd gwasanaeth 27 yn dechrau ac yn gorffen yn Stryd Havelock a bydd gwasanaethau 21, 23 a 24 yn dechrau ac yn gorffen wrth ymyl Arcêd Wyndham yn Heol Eglwys Fair.

Bydd bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu dargyfeirio ar hyd Stryd Wood, Stryd Tudor, Clare Road a rhan isaf Heol y Gadeirlan a thros Bont Caerdydd cyn ailymuno â’u llwybr arferol yn Heol y Castell.

 

Gwasanaeth 30

Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol hyd at Heol y Tollty a rhan isaf Heol Eglwys Fair, ac yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Stryd Wood, Stryd Tudor, Clare Road, rhan isaf Heol y Gadeirlan a thros Bont Caerdydd i Heol y Castell lle byddant yn parhau ar hyd eu llwybr arferol. Bydd pob un o’r arosfannau arferol ar gyfer gwasanaeth 30 yn cael eu gwasanaethu. 

 

Gwasanaeth 35

Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol hyd at Heol y Castell, ac yna’n cael eu dargyfeirio dros Bont Caerdydd ac ar hyd rhan isaf Heol y Gadeirlan, Despenser Gardens, Fitzhamon Embankment a Stryd Wood i Heol Eglwys Fair. Bydd angen i gwsmeriaid a fyddai fel rheol yn ymuno â gwasanaeth 35 yn Heol y Porth ddefnyddio’r arhosfan sydd y tu allan i Arcêd Wyndham yn Heol Eglwys Fair. Bydd gwasanaeth 35 yn gadael canol y ddinas ar hyd ei lwybr arferol ar hyd Bute Terrace a Ffordd Churchill.

 

Gwasanaethau 44, 45, 49, 50, 52, 57 a 58

Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybrau arferol hyd at Heol Casnewydd, ac yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Rhodfa’r Orsaf, rhan isaf Ffordd Churchill, Bute Terrace a Heol y Tollty i ran isaf Heol Eglwys Fair. Yna, byddant yn mynd o amgylch Southgate House cyn cyrraedd arhosfan bysiau’r Royal Hotel. Ni fydd yr arosfannau bysiau ym Mhlas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin a Heol y Castell yn cael eu gwasanaethu.

Bydd y bysiau’n gadael canol y ddinas ar hyd eu llwybr arferol ar hyd Heol y Tollty, Bute Terrace a Ffordd Churchill.

 

Gwasanaeth X45

Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybrau arferol hyd at Heol Casnewydd, ac yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Rhodfa’r Orsaf, rhan isaf Ffordd Churchill, Bute Terrace a Heol y Tollty i ran isaf Heol Eglwys Fair. Gall cwsmeriaid sydd am ddal y bws yn yr ardal hon wneud hynny o’r arhosfan sydd y tu allan i’r Philharmonic yn Heol Eglwys Fair. Bydd y bysiau’n parhau ar eu taith i Asda Bae Caerdydd ar hyd Stryd Wood a Stryd Tudor.  

Bydd teithiau i gyfeiriad Llaneirwg yn dilyn eu llwybr arferol.

 

 

New Adventure Travel

Yn ôl