Bydd Gorymdaith Carnifal sy’n para 60 munud yn mynd trwy bentref Southgate (o gylchfan Clogwyni Pennard i Park Road) ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf 2019, rhwng 13:00 a 14:00.
O ganlyniad, penderfynwyd bod yn rhaid cau'r ffyrdd canlynol dros dro (ac yn eu tro): rhan o Southgate Road, rhan o Pennard Road a Park Road ar ei hyd, gan orffen yn y cae chwaraeon ym mhen draw Park Road.
Mae disgwyl i’r orymdaith ddechrau am 13:00 a gorffen am 14:00. Felly, bydd yn rhaid cau’r ffyrdd uchod o 12:30 tan 14:30 ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf 2019.
Gallai hynny olygu bod angen i wasanaeth 14 orffen ei daith yn Linkside rhwng yr amserau a nodwyd.