Bws Caerdydd
Ni fydd modd defnyddio arhosfan JU ar Stryd Havelock am ryw 4 - 6 wythnos o ddydd Iau 11 Gorffennaf ymlaen.
O ganlyniad, bydd gwasanaeth 27 yn dechrau ac yn gorffen yn Stryd Wood (arhosfan JR) yng nghanol y ddinas ac yna’n gadael y ddinas ar hyd Heol Scott, Heol y Parc a Heol y Porth. Bydd arosfannau bysiau ar Stryd y Castell a Ffordd y Brenin yn cael eu gwasanaethu yn ôl yr arfer.