Problemau teithio

Bydd Heol Hemingway (Cylchfan Neuadd y Sir) ar gau ar y dyddiadau canlynol, rhwng y gylchfan a Ffordd Gyswllt Ganolog yr A4234, er mwyn gwneud gwaith hanfodol ar y ffordd gerbydau i roi wyneb newydd arni:

  • Rhwng 8pm nos Sadwrn 27 Gorffennaf a 5am ar 28 Gorffennaf
  • Rhwng 6pm nos Sul 28 Gorffennaf a 5am ar 29 Gorffennaf

 

Bws Caerdydd

Bydd Gwasanaeth 8 yn cael ei ddargyfeirio o Bute Street i Ganolfan y Mileniwm ar hyd The Flourish. Ni fydd yn gwasanaethu arosfannau bysiau yn Neuadd y Sir, Harbwr Scott, Cei Britannia ac East Bute Street.

 

NAT

Bydd gwasanaeth T9 yn gadael yr A4232 ac yn teithio ar hyd Stuart Street, New George Street, Bute Street, yr A4119, ac yna ymlaen i Rodfa Lloyd George. Dyma lle bydd y gwasanaeth yn gollwng ac yn casglu teithwyr.

Ni fydd yr arhosfan wrth ymyl y Premier Inn ym Mae Caerdydd yn cael ei wasanaethu yn ystod y cyfnodau uchod.

Yn ôl