Problemau teithio

Bydd St Cenydd Road, Caerffili ar gau am 6 wythnos o 29 Gorffennaf ymlaen. O ganlyniad bydd gwasanaethau bws B, K ac X yn cael eu dargyfeirio.

 

BWS B:  Senghenydd – Caerffili

Ni fydd Trecenydd yn cael ei wasanaethu.                        

Yr arosfannau agosaf fydd y rheini sydd wrth ymyl Ysgolion Hendre neu Martin's Farm.

 

BWS K: Caledfryn – Caerffili

Bydd pob taith yn gwasanaethu Trecenydd.

 

BWS L: Caerffili – St Christopher's Drive – Glenfields – Bryncenydd

Ni fydd teithiau Caerffili yn gwasanaethu Glenfields am 0858 na 1058, ond bydd y teithiau hyn yn gwasanaethu arosfannau yn Martin's Farm. Bydd pob taith arall yn parhau i wasanaethu Glenfields a byddant hefyd yn defnyddio arosfannau bysiau Martin’s Farm a First Avenue.

 

BWS X Senghenydd – Caerdydd

Ni chaiff arosfannau bysiau Trecenydd, Martin's Farm a Chwrt Rawlin eu gwasanaethu. Bydd bysiau yn teithio o gylchfan Trecenydd ar hyd ffordd osgoi’r A469 ac yn dychwelyd i’w llwybr arferol o Ysgol Cwrt Rawlin.

 

Yn ôl