Problemau teithio

Arriva Cymru

O ddydd Sul 4 Awst 2019 ymlaen, bydd rhai prisiau tocynnau’n cael eu newid ar wasanaethau bws yn ardal y gogledd a Chaer.

Bydd pris tocyn wythnos rhatach i oedolyn yng Nghymru yn newid i £19.

 

Caer

Bydd pris tocyn unffordd i oedolyn ar wasanaethau lleol yn Blacon yn codi 10c a bydd pris tocyn diwrnod/wythnos rhatach i oedolyn yn ardal Blacon yn newid i £2.70/£10.

 

Bangor

Bydd pris tocyn diwrnod/wythnos rhatach i oedolyn ym mharth Bangor yn newid i £4.60/£15.

 

Wrecsam

Bydd pris tocyn diwrnod/wythnos rhatach i oedolyn ym mharth Wrecsam yn newid i £4.60/£15.

Bydd y tocyn dwyffordd arbennig yn ardal Cefn yn dod i ben.

Bydd terfynau parth Wrecsam yn newid ar wasanaethau 5 ac X51.

Yn ôl