O ddydd Gwener 23 Awst tan ddydd Sul 25 Awst 2019, bydd Pride Cymru yn cael ei gynnal ar Lawntiau Neuadd y Ddinas Caerdydd ac yn yr ardal gyfagos. Bydd ffyrdd ar gau yn ystod y cyfnod dan sylw, a chyn ac ar ôl y digwyddiad. Mae manylion y ffyrdd a fydd ar gau a’r gwasanaethau a fydd yn cael eu dargyfeirio i’w gweld isod.
Ddydd Iau 22 Awst - 26 Awst rhwng 6am a 6pm:
- Rhodfa’r Amgueddfa o’r gyffordd â Heol y Coleg i’r gyffordd â Heol Gerddi’r Orsedd.
- Heol Gerddi’r Orsedd ar ei hyd.
- Heol Neuadd y Ddinas ar ei hyd.
- Rhodfa’r Brenin Edward VII o hanner ffordd rhwng Heol y Coleg a Heol Neuadd y Ddinas (i’r fynedfa i Gerddi Alexandra) i’r gyffordd â Boulevard de Nantes.
Bws Caerdydd
Bydd Parc Cathays ar gau o ddydd Iau 22 Awst tan ddydd Llun 26 Awst tra bydd gwaith paratoi ar gyfer Pride Cymru yn mynd rhagddo. Yn ystod y cyfnod hwn bydd Baycar (gwasanaeth 6) yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Plas-y-Parc, Heol Corbett a Heol y Gogledd. Dylech ddefnyddio’r arosfannau bysiau ar hyd llwybr y dargyfeiriad. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Ddydd Sadwrn 24 Awst – Parêd Pride Cymru o 10am tan 1pm:
- Heol y Gogledd o’r gyffordd â Colum Road i’r gyffordd â Boulevard de Nantes.
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
- Stryd Tudor o’r gyffordd â Clare Road i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).
- Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar eu hyd: Ffordd y Brenin, Heol y Castell, Heol y Dug, Y Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Wood, Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
Bws Caerdydd
Bydd nifer o wasanaethau Bws Caerdydd yn cael eu dargyfeirio a/neu’n dechrau/gorffen eu taith wrth arosfannau gwahanol i’r arfer yng nghanol y ddinas rhwng 11:00am a 1:30pm.
Cliciwch yma i weld yr holl fanylion ynghylch ble y gallwch ddal eich bws a pha arosfannau na fyddant yn cael eu gwasanaethu yn ystod y cyfnod dan sylw.
Ni fydd y trefniadau cau ffyrdd yn effeithio ar wasanaethau 51/53, 92, 93, 94, 95 a 95A/95B, a bydd y gwasanaethau hyn yn dechrau/gorffen eu taith wrth eu harosfannau arferol ac yn dilyn eu llwybr arferol.
Stagecoach yn Ne Cymru
Bydd pob un o fysiau Stagecoach yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion tan 15:00.
Bydd bysiau’n teithio ar hyd Colum Road a Phlas-y-Parc oherwydd bod Heol y Gogledd (yr A470) ar gau hefyd.
Gwasanaeth 122: Bydd yn cael ei ddargyfeirio drwy Gyfnewidfa Gabalfa ac ar hyd Heol y Gogledd ac ni fydd yn gwasanaethu Heol y Gadeirlan tan ar ôl 15:00.
Gwasanaethau 25/132: Ni fyddant yn gwasanaethu Bae Caerdydd tan ar ôl 15:00.
NAT
Cliciwch yma er mwyn gweld y llwybrau dargyfeirio a fydd ar waith ar gyfer y gwasanaethau canlynol a ddarperir gan NAT: X1, X5, X8, 303/304, T9, 320 a T1c.
Trafnidiaeth Cymru
Bydd gwasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru yn brysur iawn dros y penwythnos. Cofiwch ganiatáu digon o amser ar gyfer eich taith a defnyddiwch y cyfleuster Journey Check i weld a oes unrhyw broblemau teithio yn amharu ar wasanaethau.
Newport Bus
Byddgwasanaeth 30 yn dechrau ac yn gorffen ei daith yn Heol y BrodyrLlwydion yn unigrhwng 11:00 a 13:30. Byddgwasanaeth X30 yn teithio’n ôl ac ymlaen i YsbytyAthrofaolCymru yn unigrhwng 10:00 a 13:30.