Problemau teithio

Bydd First Cymru yn newid rhai o’i wasanaethau yng Nghastell-nedd a Phort Talbot o ddydd Sul 1 Medi 2019 ymlaen.

Rydym yn gobeithio y bydd yr amserlenni hyn ar gael ar ein gwefan yn fuan. Yn y cyfamser, gallwch weld yr amserlenni newydd drwy glicio ar y dolenni cyswllt isod.

 

34 (Abertawe i Gastell-nedd heibio i gyfleuster Parcio a Theithio Glandŵr, Llansamlet a Sgiwen): Bydd mân newidiadau i’r amserlen.

 

70/71 (Cymer i Ben-y-bont ar Ogwr drwy Gaerau a Maesteg): Bydd y gwasanaeth yn parhau i weithredu bob 15 munud rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerau. Bydd gwasanaethau’n dal i fynd mor bell â Chymer bob 30 munud er mwyn cynnal cysylltiadau â gwasanaeth 83 i Lyncorrwg, Blaengwynfi a Phort Talbot.

 

Gwasanaeth 81 Port Talbot – Cwmafan

 

83 (Blaengwynfi/Glyncorrwg i Bort Talbot): Bydd y llwybr yn cael ei ymestyn i archfarchnad Morrisons yn ardal Sandfields o Bort Talbot. Bydd bysiau hefyd yn teithio heibio i Ysbyty Castell-nedd Port Talbot gan ddarparu gwasanaeth uniongyrchol o Gwm Afan.

 

84 (Port Talbot i Abertawe drwy Ystâd Sandfields a Baglan): Bydd y llwybr yn cael ei newid fel ei fod yn mynd drwy Dŷ Canol yn lle Church View ym Maglan.

 

85 (Sandfields i Borthcawl drwy Bort Talbot): Bydd y gwasanaeth yn dod i ben.

 

86 (Castell-nedd i Bort Talbot drwy Lansawel a Baglan): Bydd y llwybr yn cael ei newid, a bydd bysiau’n gweithredu rhwng Castell-nedd a Llansawel yn unig.

 

87 (Castell-nedd i Fargam drwy Barc Ynni Baglan a Phort Talbot): Bydd y gwasanaeth yn gweithredu’n amlach. Bydd yn gweithredu bob 15 munud o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng Castell-nedd a Phort Talbot, a bydd dau fws yr awr yn mynd mor bell â Margam.

 

88 (Castell-nedd i Fargam drwy Barc Ynni Baglan a Phort Talbot): Bydd rhif y gwasanaeth hwn yn newid i 87 er mwyn cyfuno’r amserlenni i greu un llwybr a symleiddio’r rhwydwaith.

 

X1 (Pen-y-bont ar Ogwr i Abertawe drwy’r Pîl a Phort Talbot): Bydd gwasanaeth 21:20 o Ben-y-bont ar Ogwr i Bort Talbot yn dod i ben. Bydd y gwasanaeth olaf o Ben-y-bont ar Ogwr i Abertawe drwy Bort Talbot yn gadael am 20:00.

 

X3 (Maesteg i Abertawe drwy Fryn a Phort Talbot): Bydd teithiau ychwanegol yn y bore.

 

X4 (Pen-y-bont ar Ogwr i Gastell-nedd drwy’r Pîl a Phort Talbot): Bydd y llwybr yn cael ei newid fel ei fod yn mynd ar hyd Old Road ym Maglan.

 

Yn ôl