Problemau teithio

Bydd First Cymru yn newid rhai o’i wasanaethau yn Abertawe a’r gorllewin o ddydd Sul 1 Medi ymlaen.

Rydym yn gobeithio y bydd yr amserlenni hyn ar gael ar ein gwefan yn fuan. Yn y cyfamser, gallwch weld yr amserlenni newydd drwy glicio ar y dolenni cyswllt isod.

 

31 (Abertawe i Ysbyty Treforys drwy Drallwn, Gellifedw a Pharc Menter Abertawe): Bydd yr amserlen yn cael ei newid er mwyn caniatáu rhagor o amser ar gyfer rhai teithiau yn ystod oriau brig y bore a’r prynhawn.

 

34 (Abertawe i Gastell-nedd heibio i gyfleuster Parcio a Theithio Glandŵr, Llansamlet a Sgiwen): Bydd mân newidiadau i’r amserlen er mwyn gwella dibynadwyedd.

 

84 (Port Talbot i Abertawe drwy Ystâd Sandfields a Baglan): Bydd y llwybr yn cael ei newid fel ei fod yn mynd drwy Dŷ Canol yn lle Church View ym Maglan, sy’n golygu y bydd gwasanaeth uniongyrchol i Abertawe ar gael i bobl ym mhen uchaf Ystâd Baglan. Bydd mân newidiadau’n cael eu gwneud i’r amserlen er mwyn ymgorffori’r newid hwn.

 

128 (Rhydaman i Lanelli drwy Gapel Hendre, Cross Hands a Llan-non): Bydd y llwybr yn cael ei newid fel ei fod yn mynd heibio i Ysgol Maes yr Yrfa.

 

129 (Rhydaman i Gaerfyrddin drwy Gapel Hendre, Cross Hands a Phorth-y-rhyd): Bydd y llwybr yn cael ei newid fel ei fod yn mynd heibio i Ysgol Maes yr Yrfa.

 

X1 (Pen-y-bont ar Ogwr i Abertawe drwy’r Pîl a Phort Talbot): Bydd gwasanaeth 21:20 o Ben-y-bont ar Ogwr i Bort Talbot yn dod i ben. Bydd y gwasanaeth olaf o Ben-y-bont ar Ogwr i Abertawe drwy Bort Talbot yn gadael am 20:00.

 

X3 (Maesteg i Abertawe drwy Fryn a Phort Talbot): Bydd teithiau ychwanegol yn y bore o Bort Talbot i Faesteg am 07:05 ac am 07:30.

 

Yn ôl