Bws Caerdydd
Ddydd Mawrth 17 Medi, dylid nodi y bydd yn rhaid rhoi’r gorau i ddefnyddio Arhosfan Bysiau JH ar Heol Pont-yr-Aes o 20:00 tan ganol nos.
Mae hynny er mwyn hwyluso gwaith hanfodol i osod wyneb a llinellau newydd ar y ffordd ger yr arhosfan bysiau.
Gall cwsmeriaid sy’n dymuno dal gwasanaethau rhif 11 neu 28B wneud hynny o Canal Street yn ystod y cyfnod hwn.