Problemau teithio

Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym o 19/9/2019, ac nid 22/9/2019 fel y nodwyd ar ein Cynlluniwr Taith a’n tudalen Amserlenni. Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.

 

Bydd gwasanaethau Prifysgol Abertawe yn newid yn ôl i’r amserlenni ar gyfer tymor y Brifysgol o ddydd Iau 19 Medi 2019 ymlaen. Cliciwch ar y dolenni cyswllt isod i weld yr amserlenni newydd hyn.

 

8 (Campws Singleton i Gampws y Bae trwy Ganol y Ddinas a chyfleuster Parcio a Theithio Ffordd Fabian): Bydd bysiau’n gweithredu bob 15 munud drwy gydol y dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a bob 20 munud ar ddydd Sul yn ystod tymor y Brifysgol. Dylid nodi y bydd gwasanaeth 8 yn ymestyn i wasanaethu Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan yn ystod y cyfnodau pan nad yw gwasanaeth rhif 9 yn gweithredu (gweler yr amserlen isod).

9 (Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan i Gampws y Bae trwy Gampws Singleton): Gwasanaeth rhif 8X oedd hwn yn flaenorol a bydd yn gweithredu bob 20 munud o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod tymor y Brifysgol gan ddarparu cyswllt mwy uniongyrchol rhwng Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan a’r ddau gampws yn Singleton a’r Bae. Pan na fydd y gwasanaeth hwn yn gweithredu dylid nodi y bydd gwasanaeth rhif 8 yn ymestyn i wasanaethu Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan.

10 (Campws Singleton i Gampws y Bae trwy Sgeti, Uplands, yr Orsaf Drenau a llety myfyrwyr St. David's): Bydd bysiau’n gweithredu bob 15 munud drwy gydol y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener, bob hanner awr ar ddydd Sadwrn a bob awr ar ddydd Sul yn ystod tymor y Brifysgol.

 

Yn ôl