Problemau teithio

Bydd rhan o lwybr rhif 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol rhwng Cilfynydd ac Abercynon ar gau dros gyfnod hanner tymor yr hydref er mwyn cyflawni gwaith atgyweirio hanfodol ar strwythur pont droed Mill Farm.  

Mae’r gwaith wedi’i amseru fel ei fod yn amharu cyn lleied ag sy’n bosibl ar ysgolion, a bydd y llwybr ar gau rhwng 9am a 4pm er mwyn amharu cyn lleied ag sy’n bosibl ar y sawl sy’n teithio’n ôl ac ymlaen i’r gwaith.

Rhaid cau’r llwybr er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.

 

Ymestyn dyddiad olaf cau’r llwybr o 28/10/2019 i 3/11/2019:

Rhwng 9am a 4pm o 28/10/2019 tan 3/11/2019 bydd y rhan o’r llwybr o Abercynon Road i gyfeiriad y dwyrain ar draws afon Taf dros y bont droed, ac yna i gyfeiriad y de-ddwyrain hyd at y gyffordd wrth ymyl Cae Chwaraeon Cilfynydd, ar gau.

Bydd y llwybr amgen, tra bydd y rhan hon o’r llwybr ar gau, yn dilyn y rhwydwaith priffyrdd presennol.

Yn ôl