Problemau teithio

Bws Caerdydd

Oherwydd digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal ar draws Caerdydd, bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio er mwyn sicrhau diogelwch cwsmeriaid a staff Bws Caerdydd nos Iau 31 Hydref a nos Fawrth 5 Tachwedd. Bydd dargyfeiriadau ar waith yn y Barri hefyd nos Sadwrn 2 Tachwedd o 17:00 ymlaen.

Nos Iau 31 Hydref a nos Fawrth 5 Tachwedd

Gwasanaeth

Amser cychwyn y dargyfeiriad

Y dargyfeiriad

1

O Canal Street am 16:30 tan y bws diwethaf

Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol hyd at Colchester Avenue, yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Heol Casnewydd hyd at y Royal Oak, ac yna’n dilyn Beresford Road a Moorland Road hyd at Habershon Street lle byddant yn ailymuno â’u llwybr arferol. Ni fydd arosfannau bysiau ar Rover Way, Pengam Road, Storrar Road a Tweedsmuir Road yn cael eu gwasanaethu.

2

O Canal Street am 17:30 tan y bws diwethaf

Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol hyd at Habershon Street, yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Moorland Road a Beresford Road hyd at y Royal Oak, ac yna’n dilyn Heol Casnewydd hyd at Colchester Avenue lle byddant yn ailymuno â’u llwybr arferol. Ni fydd arosfannau bysiau ar Tweedsmuir Road, Clydesmuir Road, Pengam Road a Rover Way yn cael eu gwasanaethu.

11 i Bengam Green

O Heol Pont-yr-Aes am 17:52 tan y bws diwethaf

Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol hyd at Splott Road (St Saviour’s), yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Habershon Street, Moorland Road a Beresford Road hyd at y Royal Oak, ac yna’n dilyn Heol Casnewydd a Rover Way lle byddant yn ailymuno â’u llwybr arferol i Bengam Green. Ni fydd arosfannau bysiau o Courtenay Road drwy Dremorfa i Pengam Road yn cael eu gwasanaethu.

11 o Bengam Green

O Bengam Green am 18:08 tan y bws diwethaf

Bydd y bysiau’n cael eu dargyfeirio o Rover Way ar hyd Heol Casnewydd hyd at y Royal Oak, ac yna’n dilyn Beresford Road, Moorland Road a Habershon Street hyd at Splott Road lle byddant yn ailymuno â’u llwybr arferol. Ni fydd arosfannau bysiau o Whittaker Road drwy Dremorfa hyd at Walker Road (Splott Road) yn cael eu gwasanaethu.

13 i’r Ddrôp

O Heol y Porth am 17:40 tan y bws diwethaf

Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol hyd at Heol Orllewinol y Bont-faen, yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Grand Avenue yn ei chyfanrwydd hyd at y Ddrôp. Ni fyddant yn gwasanaethu arosfannau bysiau ar Heol-y-Felin, Mill Road, Plymouth Wood Road, Archer Road a Snowden Road.

13 o’r Ddrôp

O Mansell Avenue am 17:54 tan y bws diwethaf

Bydd y bysiau’n cael eu dargyfeirio ar hyd Grand Avenue yn ei chyfanrwydd hyd at Heol Orllewinol y Bont-faen, ac ni fyddant yn gwasanaethu arosfannau bysiau ar Snowden Road, Archer Road a Plymouth Wood Road.

13 i’r Pentref Chwaraeon

O Heol y Porth am 16:49 tan y bws diwethaf

Bydd y bysiau’n cael eu dargyfeirio ar hyd Rhodfa Lloyd George rhwng canol y ddinas a Chanolfan y Mileniwm. Ni fydd yr arosfannau bysiau ar hyd Stryd Bute yn cael eu gwasanaethu.

13 o’r Pentref Chwaraeon

O Olympian Drive am 17:19 tan y bws diwethaf

Bydd y bysiau’n cael eu dargyfeirio ar hyd Rhodfa Lloyd George rhwng Canolfan y Mileniwm a chanol y ddinas. Ni fydd yr arosfannau bysiau ar hyd Stryd Bute yn cael eu gwasanaethu.

44 a 45 i Laneirwg

O Heol y Castell am 17:35 (45) ac am 17:43 (44) tan y bws diwethaf

Bydd gwasanaeth rhif 44 yn dilyn Greenway Road yn ei chyfanrwydd rhwng New Road a Gorsaf Heddlu Llaneirwg, ac ni fydd yn gwasanaethu arosfannau bysiau ar hyd Trowbridge Road, Aberdaron Road, Bynbala Way, Hendre Road a Tresigin Road.

Bydd gwasanaeth rhif 45 yn dilyn Wentloog Road yn ei chyfanrwydd hyd at Greenway Road, ac ni fydd yn gwasanaethu arosfannau bysiau ar Cae Glas Road, Nevin Crescent a Rhyl Road.

44 a 45 i ganol y ddinas

O Orsaf Heddlu Llaneirwg am 18:11 (45) ac am 18:19 (44) tan y bws diwethaf

Bydd gwasanaeth rhif 44 yn dilyn ei lwybr arferol o amgylch Willowbrook Drive ac yna’n mynd ar hyd Greenway Road yn ei chyfanrwydd hyd at New Road. Ni fydd yn gwasanaethu arosfannau bysiau ar Tresigin Road, Hendre Road, Bynbala Way, Aberdaron Road a Trowbridge Road.

Bydd gwasanaeth rhif 45 yn dilyn ei lwybr arferol o amgylch Willowbrook Drive ac yna’n mynd ar hyd Wentloog Road yn ei chyfanrwydd. Ni fydd yn gwasanaethu arosfannau bysiau ar Rhyl Road, Nevin Crescent a Cae Glas Road.

49 a 50 i Lanrhymni

O Heol y Castell am 17:14 (49) ac am 17:24 (50) tan y bws diwethaf

Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol hyd at y Carpenters Arms ac yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Heol Casnewydd hyd at gylchfan Llaneirwg Way. Ni fyddant yn gwasanaethu Ystâd Llanrhymni.

49 a 50 i ganol y ddinas

O Lanrhymni (Siopau Countisbury Ave) am 18:10 (50) ac am 18:18 (49) tan y bws diwethaf

Bydd y bysiau’n dechrau o gylchfan Llaneirwg Way ac yn mynd ar hyd Heol Casnewydd. Ni fyddant yn gwasanaethu Ystâd Llanrhymni.

65A i Laneirwg

O Ysbyty’r Waun am 18:15 

Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol hyd at Greenway Road/Trowbridge Road, ac yna’n mynd ar hyd Greenway Road a Llaneirwg Way hyd at Orsaf Heddlu Llaneirwg. Ni fyddant yn gwasanaethu arosfannau bysiau ar Trowbridge Road, Aberdaron Road, Glan y Mor Road, Brynbala Way, Hendre Road a Tresigin Road.

65A i Ysbyty’r Waun

O Orsaf Heddlu Llaneirwg am 18:49

Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol o amgylch Willowbrook Drive ac ar hyd Llaneirwg Way, ac yna’n mynd ar hyd Heol Casnewydd hyd at y Carpenters Arms lle byddant yn ailymuno â’u llwybr arferol. Ni fyddant yn gwasanaethu Ystâd Llanrhymni.

Nos Sadwrn 2 Tachwedd

95 i Ynys y Barri

O’r Sgwâr Canolog yng nghanol y ddinas am 16:35 tan y bws diwethaf

Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol hyd at Morrisons lle byddant yn gorffen eu taith. Ni fydd arosfannau bysiau ar hyd Broad Street a Ffordd-y-Mileniwm ac ar Ynys y Barri yn cael eu gwasanaethu.

95 i Gaerdydd

O Ynys y Barri am 17:13 tan y bws diwethaf

Bydd y bysiau’n dechrau o Morrisons ac nid Ynys y Barri. Ni fydd arosfannau bysiau ar Ynys y Barri, Broad Street a Ffordd-y-Mileniwm yn cael eu gwasanaethu.

96 / 96A i’r Barri

O Heol y Porth am 17:10; 17:40; 18:20; 19:25 a 20:25 

Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol ar hyd Colcot Road hyd at Williams Stores, ac yna’n mynd ar hyd Barry Road, Buttrills Road a Gladstone Road i Sgwâr y Brenin. Ni fydd arosfannau bysiau ar hyd Jenner Road, Park Crescent, St Nicholas’ Road, Park Avenue a Broad Street yn cael eu gwasanaethu. Bydd y bysiau sy’n gadael Heol y Porth am 21:30 a 22:45 yn dilyn eu llwybr arferol.

96 / 96A i Gaerdydd

O Sgwâr y Brenin am 18:16; 19:16; 19:48 a 20:45

Bydd y bysiau’n cael eu dargyfeirio rhwng Holton Road a Colcot Road ar hyd Buttrills Road a Barry Road. Ni fydd arosfannau bysiau ar hyd Broad Street, St Nicholas’ Road, Park Crescent a Jenner Road yn cael eu gwasanaethu. Bydd y bysiau sy’n gadael Sgwâr y Brenin am 21:48 a 22:48 yn dilyn eu llwybr arferol.

 

Yn ôl