Bydd Heol Casnewydd ar gau’n rhannol o’r gyffordd â Phlas Fitzalan i’r gyffordd â Heol y Ddinas rhwng 00:01 ddydd Sul 27 Hydref a 6am ddydd Mawrth 29 Hydref.
At hynny, bydd trefniadau rheoli traffig ar waith nos Sadwrn 26 Hydref, a allai achosi rhywfaint o oedi i rai gwasanaethau yn yr ardal.
Y rheswm am hynny yw bod gwaith ffilmio’n digwydd yn yr ardal.
Disgwylir y bydd cau’r ffordd yn achosi llawer o oedi yn yr ardal, felly dylech ganiatáu digon o amser ar gyfer eich taith.
Bws Caerdydd
Nos Sadwrn 26 Hydref rhwng 7pm ac amser y bws diwethaf:
Bydd bysiau’n dilyn eu llwybr arferol ond gallai fod rhywfaint o oedi. Dylech ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eich taith.
Rhwng 00:01 ddydd Sul 27 Hydref a 06:00 ddydd Mawrth 29 Hydref:
- Bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio ar hyd y Parêd a West Grove.
- Ni fydd yr arosfannau bysiau yn West Grove (Heol Casnewydd) ac wrth ymyl yr ysbyty’n cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arhosfan dros dro ar y Parêd yn lle hynny. Mae’r newid hwn yn effeithio ar wasanaethau rhif 8, 9, 9a, 11, 30, 44, 45, 45b, 49, 50, X45 ac X59.
- Mae’n bosibl y bydd bysiau’n cyrraedd ychydig yn hwyrach na’r disgwyl oherwydd yr holl draffig a fydd yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Albany Road, Richmond Road a West Grove. Dylech ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eich taith.
Stagecoach yn Ne Cymru
Bydd gwasanaeth X3 ddydd Llun 28 Hydref yn cael ei ddargyfeirio ar hyd y Parêd a West Grove i’r ddau gyfeiriad.
Ni fydd yr arosfannau bysiau yn West Grove (Heol Casnewydd) ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas, ac wrth ymyl yr ysbyty ar gyfer bysiau i gyfeiriad canol y ddinas, yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau dros dro ar y Parêd yn lle hynny.
NAT
O 00:01 ddydd Sul 27 Hydref tan 06:00 ddydd Mawrth 29 Hydref, bydd gwasanaethau X5 a 10 yn cael eu dargyfeirio.
Cliciwch yma i weld manylion y dargyfeiriadau dan sylw.
Newport Bus
Bydd gwasanaeth 30 yn teithio ar hyd y Parêd a West Grove. Ni fydd yr arosfannau bysiau yn West Grove ac wrth ymyl yr ysbyty’n cael eu gwasanaethu. Bydd arhosfan y Parêd yn cael ei ddefnyddio fel arhosfan dros dro.