Problemau teithio

First Cymru

Nodwch y bydd y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud i wasanaethau First Cymru o 3 Tachwedd 2019 ymlaen. Gallwch weld yr amserlenni sydd wedi’u diweddaru ar gyfer y gwasanaethau dan sylw drwy glicio ar y dolenni cyswllt isod.

Gwasanaeth 4/4A (Prifysgol Abertawe (Campws Singleton) i Ysbyty Treforys drwy ganol y ddinas a heibio i Stadiwm Liberty a Threforys): Bydd y gwasanaeth yn dal i weithredu’n aml hyd at bob 10 munud o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod tymhorau’r Brifysgol a bob 12 munud o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod gwyliau’r Brifysgol, a bydd yn dal i weithredu ar ddydd Sadwrn bob amser. Mewn ymdrech i helpu i wella dibynadwyedd, bydd rhai newidiadau i amserau rhwng man cychwyn a man gorffen pob taith.

 

59 (Castell-nedd i Bont-rhyd-y-fen drwy Gimla a Thon-mawr): Bydd amserlen y gwasanaeth hwn yn cael ei ddiwygio. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn fuan.

 

70/71 (Cymer i Ben-y-bont ar Ogwr drwy Gaerau a Maesteg): Bydd bws 19:20 o Gymer i Ben-y-bont ar Ogwr yn ymadael 5 munud yn hwyrach er mwyn cysylltu â gwasanaeth 83.

 

83 (Blaengwynfi/Glyncorrwg i Bort Talbot): Bydd bws 18:30 o Flaengwynfi yn cael ei ymestyn fel ei fod yn mynd yn ei flaen i Orsaf Fysiau Port Talbot.

 

84 (Port Talbot i Abertawe drwy Ystâd Sandfields a Baglan): Bydd y gwasanaeth yn dychwelyd i’w lwybr blaenorol drwy Faglan, a bydd y rhan o’r llwybr sy’n mynd drwy Faes Tŷ Canol yn cael ei hepgor.

 

86 (Castell-nedd i Lansawel): Bydd y gwasanaeth hwn yn dod i ben.

 

X7 (Abertawe i Lyn-nedd drwy Jersey Marine, Castell-nedd, Tonna a Resolfen): Bydd y bysiau sy’n ymadael am 07:03 ac am 08:29 o Resolfen i Abertawe yn dechrau ymhellach yn ôl ar hyd y llwybr, yng Nglyn-nedd (wrth ymyl tafarn y Woolpack). Bydd y naill fws yn ymadael am 06:48 a’r llall yn ymadael am 08:11.

Yn ôl