Problemau teithio

Nodwch y gallech ddod ar draws rhai problemau wrth geisio defnyddio gwefan Traveline Cymru yn ystod oriau mân y bore, ddydd Mercher 23 Hydref (amcangyfrifir y bydd hynny rhwng canol nos a 2am). Y rheswm am hynny yw y bydd gwaith cynnal a chadw’n cael ei gyflawni ar weinydd y wefan.

Disgwylir mai nifer fach iawn o broblemau fydd yn cael eu hachosi gan y gwaith cynnal a chadw. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwch yn dod ar draws problemau’n ysbeidiol wrth geisio defnyddio’r wefan yn ystod y cyfnod dan sylw.

Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau, dylech roi cynnig ar ddefnyddio’r wefan unwaith eto ar ôl i’r cyfnod dan sylw basio. Fel arall gallwch ffonio ein rhif Rhadffôn, sef 0800 464 00 00, rhwng 7am ac 8pm bob dydd. Bydd ein cynghorwyr yn gallu ateb eich ymholiadau ynghylch gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus.

Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a diolch i chi am eich amynedd.

Yn ôl