Bws Caerdydd
Bydd Windsor Road, Penarth ar gau dros dro o Hickman Road/Glebe Street i gylchfan Albert Road rhwng 20:00 a 23:59 bob nos o 4/11/2019 tan 8/11/2019.
Bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio i’r ddau gyfeiriad ar hyd High Street, Plessey Street ac Albert Road.
Ni fydd arhosfan bysiau Windsor Arcade (o gyfeiriad canol y dref) yn cael ei wasanaethu.
Caiff cwsmeriaid sy’n teithio o gyfeiriad canol y dref eu cynghori i ddefnyddio’r arhosfan dros dro ar Albert Road (y tu allan i’r toiledau cyhoeddus).