Bydd y gyfres Golau Gaeaf newydd yn cael ei chynnal yn Llandudno ddydd Sadwrn 16 Tachwedd a dydd Sul 14 Rhagfyr.
Mae disgwyl y bydd llawer iawn o bobl yn mynychu’r ddau ddigwyddiad. Mae’r Cyngor wedi cysylltu â chwmnïau lleol sy’n darparu gwasanaethau bws a thrên, er mwyn rhoi gwybod iddynt am hynny, ond dylai ymwelwyr ddisgwyl i wasanaethau fod yn fwy prysur nag arfer.
Bydd pob gwasanaeth bws yn gweithredu’n ôl yr arfer. Fodd bynnag, dylai ymwelwyr a thrigolion lleol fod yn ymwybodol y gallai fod rhywfaint o oedi ar y ffyrdd yn ystod yr oriau brig.
Ewch i wefan Cyngor Conwy i gael rhagor o wybodaeth.