Problemau teithio

Newport Bus

Oherwydd digwyddiad Nadolig a gynhelir ar hyd y Stryd Fawr ddydd Sadwrn 16 Tachwedd, bydd y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud i wasanaethau:

Y Stryd Fawr – Dydd Gwener 15 Tachwedd a Dydd Sadwrn 16 Tachwedd

  • O 17:00 ymlaen ddydd Gwener 15 Tachwedd a thrwy gydol dydd Sadwrn 16 Tachwedd, bydd y Stryd Fawr ar gau. Yn ystod y cyfnod dan sylw, bydd pob un o’r gwasanaethau sy’n gwasanaethu’r Stryd Fawr (llwybrau 6, 19 a 26A/C) yn mynd yn syth i’r orsaf fysiau.

Stow Hill – Dydd Sadwrn 16 Tachwedd

  • Bydd Stow Hill ar gau rhwng 06:00 a 21:00. Yn ystod y cyfnod dan sylw, bydd gwasanaeth 2C Gaer (i gyfeiriad canol y ddinas) yn mynd ar hyd Havelock Street, North Street a Queensway i mewn i’r orsaf fysiau.
Yn ôl