Problemau teithio

First Cymru

Mae gwasanaeth Metro 4/4A First Cymru wedi profi rhywfaint o oedi oherwydd gwaith ffordd sy’n cael ei gyflawni yn Cwmrhydyceirw Road, Treforys er mwyn adnewyddu’r brif bibell ddŵr. Disgwylir y bydd y gwaith dan sylw’n para tan yr wythnos a fydd yn gorffen ar 14 Rhagfyr 2019.

Oherwydd goleuadau traffig dros dro sy’n cael eu defnyddio i reoli llif y traffig o gwmpas y gwaith, mae gwasanaethau’n profi rhywfaint o oedi oherwydd ciwiau, yn enwedig yn ystod oriau brig y bore a’r prynhawn o ganlyniad i’r traffig ychwanegol sydd yng nghyffiniau Ysgol Gyfun Treforys.

Hoffai First Cymru ymddiheuro i’w gwsmeriaid am unrhyw anghyfleustra a’u cynghori i neilltuo amser ychwanegol ar gyfer eu taith er mwyn ystyried yr oedi sy’n debygol o effeithio ar y gwasanaeth.

Yn ôl