Problemau teithio

Dylai cwsmeriaid First Cymru nodi y bydd y newidiadau canlynol yn dod i rym ar wasanaethau 59, 84 ac 86 o ddydd Iau 12 Rhagfyr 2019 ymlaen:

 

59 (Castell-nedd i Bont-rhyd-y-fen drwy Gimla a Thon-mawr): Bydd amserlen ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno ar gyfer y gwasanaeth hwn. Bydd y cysylltiad â gwasanaeth 83 yn cael ei gadw ym Mhont-rhyd-y-fen (Oakwood) ar gyfer teithiau’n ôl ac ymlaen i Gymer, Abergwynfi, Blaengwynfi a Glyncorrwg.

 

84 (Port Talbot i Abertawe drwy Ystâd Sandfields a Baglan): Er mwyn ateb y galw gan gwsmeriaid yn well, bydd y gwasanaeth yn dychwelyd i’w lwybr blaenorol drwy Faglan ac ni fydd yn gwasanaethu’r rhan o’r llwybr a oedd yn mynd drwy Faes Tŷ Canol.

 

86 (Castell-nedd i Lansawel): Yn dilyn ymgyngoriadau â Chyngor Castell-nedd Port Talbot a South Wales Transport, penderfynwyd y bydd South Wales Transport yn rhoi cynnig ar ymestyn ei wasanaeth rhif 202 a fydd yn awr yn gwasanaethu llwybr blaenorol rhif 86 drwy Faglan, heibio i Morrisons ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot i Orsaf Fysiau Port Talbot. O ganlyniad, bydd gwasanaeth rhif 86 yn cael ei dynnu’n ôl a bydd gwasanaeth rhif 202 yn cymryd ei le. Gall cwsmeriaid weld yr amserlen newydd ar gyfer gwasanaeth rhif 202 ar wefan South Wales Transport.

 

Yn ôl